Cofrestru marw-enedigaeth

Rydym yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd, a byddwn yn gwneud ein gorau i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallwn.  Cysylltwch â ni ar (01633) 235510 am gymorth a chyngor.

Rhaid i bob marw-enedigaeth yng Nghymru a Lloegr gael ei chofrestru yn yr ardal lle y digwyddodd.

Os nad yw'n gyfleus i chi fynd i'r swyddfa gofrestru ar gyfer yr ardal honno, gallwch fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru a Lloegr i ddatgan y manylion sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru.

Mae Swyddfa Gofrestru Casnewydd yn cynnal system apwyntiadau; ffoniwch i drefnu apwyntiad er mwyn osgoi aros yn ddiangen.

Dogfennau

Dewch â'r dystysgrif feddygol ar gyfer marw-enedigaeth a roddwyd i chi gan y meddyg neu'r fydwraig a oedd yn bresennol ar y pryd.

Cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth.

Pwy all gofrestru marw-enedigaeth?

Os bydd rhieni plentyn a aned yn farw yn briod â'i gilydd, gall y fam neu'r tad gofrestru'r farw-enedigaeth.

Os nad yw'r rhieni yn briod â'i gilydd, gall y fam gofrestru'r farw-enedigaeth ei hun.

Os yw'r fam eisiau i fanylion y tad gael eu cofnodi, rhaid iddo fod yn bresennol gyda hi ar yr adeg gofrestru.

Cymorth a chefnogaeth

Mae SANDS (y Gymdeithas Marw-enedigaeth a Marwolaeth Newyddenedigol) yn cynnig cymorth a chefnogaeth i rieni sydd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar.

Directgov: Marw-enedigaeth