Cadw Nwyddau Ffug o Gasnewydd

Mae gwerthu nwyddau a gwasanaethau ffug yn costio miliynau o bunnoedd i economi'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn ac mae'n peryglu swyddi a bywoliaeth gweithwyr a pherchenogion busnes.

Gwnewch safiad yn erbyn nwyddau ffug trwy Gadw Nwyddau Ffug Allan o Gasnewydd

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cymryd ei gyfrifoldeb i orfodi'r gyfraith ynghylch nwyddau ffug o ddifrif a bydd yn ymchwilio i unigolion a masnachwyr sy'n torri'r gyfraith, ac yn eu herlyn. 

Mae ymgyrch y cyngor, Cadw Nwyddau Ffug Allan o Gasnewydd, yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â busnesau da a gonest sydd wedi buddsoddi yn y ddinas, fel ein bod yn gwneud safiad yn erbyn gwerthu nwyddau ffug gyda'n gilydd. 

Gall busnesau lleol a phobl sy'n ystyried buddsoddi yng Nghasnewydd fod yn siwr y bydd tîm safonau masnach y cyngor yn delio ag unrhyw un sy'n gwerthu nwyddau ffug a pheryglus. 

Gall defnyddwyr a siopwyr yng Nghasnewydd fod yn hyderus y bydd safonau masnach yn cymryd camau pendant i ddiogelu eu buddiannau rhag peryglon prynu nwyddau ffug. 

Nod Cadw Nwyddau Ffug Allan o Gasnewydd yw annog masnachwyr nwyddau brand dilys y ddinas i ymrwymo i gefnogi'r frwydr yn erbyn nwyddau ffug a pheryglus.

Mae'r ymgyrch hefyd yn annog preswylwyr a busnesau i roi gwybod os ydynt yn amau bod rhywun yn torri'r gyfraith.

Byddwn yn gofyn i bartneriaid ymuno â'r ymgyrch Cadw Nwyddau Ffug Allan o Gasnewydd i ddangos eu bod yn cefnogi'r neges. 

Os ydych wedi sylwi ar unrhyw un yn cyflawni'r math hwn o drosedd, cysylltwch â'r Llinell Frys Masnachu Twyllodrus (01633) 235233 neu rhowch wybod ar-lein. 

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am safonau masnach.