Cynllun Manwerthwyr Cyfrifol

Responsible Retailer logo portrait

Mae'r cyngor yn gyfrifol am orfodi ystod eang o ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr gan gynnwys gwerthiannau cynhyrchion sy'n gyfyngedig o ran oedran, fel tybaco, alcohol, cyllyll a thân gwyllt.

Mae'r Cynllun Manwerthwyr Cyfrifol yn helpu manwerthwyr annibynnol lleol i fasnachu'n deg ac yn gyfrifol.

Bydd Swyddogion Safonau Masnach yn helpu i amddiffyn manwerthwyr rhag materion deddfwriaeth diogelu defnyddwyr y gallant eu hwynebu, drwy ddarparu cymorth a chyngor.

Dod yn fanwerthwr cyfrifol

Fel aelod o fanwerthwyr cyfrifol bydd busnesau'n ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i atal gwerthu cynhyrchion sy'n gyfyngedig o ran oedran.

Am ffi flynyddol o £150 (gostyngiad i £75 yn y flwyddyn gyntaf) bydd aelodau’r cynllun yn derbyn:

  • Pecyn diwydrwydd dyladwy cynhwysfawr
  • Hyfforddiant ar y safle i staff
  • Adroddiad archwilio ar y safle
  • Profion pryniannau - wedi’u cynnal gan Safonau Masnach ar ran yr aelod-fusnes. 
  • Hyder gan y cwsmer eu bod yn prynu gan fanwerthwr sydd wedi ymddwyn yn gyfrifol gyda diogelwch y cyhoedd mewn golwg.

Cyswllt:

E-bost [email protected] neu ffoniwch 01633 656656 a gofynnwch am y tîm Safonau Masnach