Newyddion

Cefnogwyr y Fenter Dinas Democratiaeth

Wedi ei bostio ar Monday 24th October 2016

Pat Drewett, Cadeirydd Ein Treftadaeth Siartwyr

Mae Casnewydd - Dinas Democratiaeth yn nodi hunaniaeth unigryw Casnewydd drwy amlygu ei gysylltiad ag ymgyrchoedd Siartwyr a Swffragetiaid Cymru, gan bwysleisio bod yr hunaniaeth hon mor bwysig i ddyfodol y ddinas ag y mae i'w gorffennol.

Bydd y nod hwn yn galluogi Casnewydd i ddatblygu asedau cynaliadwy sy'n atgyfnerthu ei threftadaeth, yn cynyddu ei phroffil ac yn marchnata'r ddinas er dibenion twristiaeth, addysg a buddsoddiad.

  Drwy gynnig gwell dealltwriaeth o rôl ganolog y ddinas o ran cyflawni'r targed o Bleidleisiau i Bawb, bydd llawer o gyfleoedd yn cael eu creu i breswylwyr ddod ynghyd i ddathlu Casnewydd - Dinas Democratiaeth.

Bydd y pennawd hwn yn grymuso'r ddinas i gael ei hadnabod fel prif gatalydd i gael mwy o ddealltwriaeth am y Bleidlais, ac yn oleufa democratiaeth, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol."

Karyn Keane, pennaeth Ysgol Uwchradd Casnewydd

Yn Ysgol Uwchradd Casnewydd, rydym o'r farn y dylai ein disgyblion ddatblygu gwerthfawrogiad am eu diwylliant a synnwyr hunaniaeth cryf fel dinasyddion Casnewydd, Cymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r byd ehangach. I gyflawni hyn, mae ar ein disgyblion angen datblygu dealltwriaeth gadarn o ddemocratiaeth, gan fod hyn yn hanfodol i'w helpu i lywio eu barn a'u gwerthoedd personol.

Mae cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus newydd Cymru yn benodol yn ceisio datblygu disgyblion sy'n 'ddinasyddion gwybodus sy'n deall ac yn gweithredu eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd; yn deall ac yn ystyried effaith eu hymddygiad wrth wneud penderfyniadau; ac sy'n gwybod am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'r byd, nawr ac i'r dyfodol'. Yn fras, maent yn barod i fod yn ddinasyddion Casnewydd, Cymru a'r byd.

Ian Edwards, Prif Weithredwr, Gwesty'r Celtic Manor

Mewn marchnad brysur iawn, mae'n bwysig bod Casnewydd yn dod o hyd i'w bwynt gwerthu unigryw y gellir ei ddefnyddio i ysgogi ysbryd y bobl, ac i ddod â'r hyn sy'n gwneud y ddinas mor arbennig i ymwelwyr i'r amlwg.

Caiff rôl Casnewydd o ran sefydlu Democratiaeth drwy ymgyrch y Siartwyr ei thrafod yn aml, ac mae sylwadau diweddar am anfodlonrwydd gyda'r system wleidyddol bresennol yn ein hatgoffa bod pobl yn dal i geisio lleisio'u barnau.

Nid yw democratiaeth ynghlwm wrth wleidyddiaeth yn unig - mae'n ymwneud â rhyddid dewis yn ein bywydau pob dydd ac am gynnig llwyfan i arloesedd ac uchelgeisiau ein pobl er mwyn creu'r dechnoleg ddiweddaraf ac adeiladu busnesau newydd sy'n hanfodol i ddyfodol Casnewydd.

http://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/News/articles/October-2016/Newport-City-of-Democracy-we-need-your-ideas.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.