Newyddion

Cyflwyno bagiau ailgylchu glas newydd i hybu ailgylchu yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 5th May 2023

Mae newidiadau i gynwysyddion ailgylchu yn cael eu cyflwyno mewn ymdrech i hybu cyfraddau ailgylchu.

O ddechrau mis Mai, bydd y cyngor a'n helusen partner ailgylchu, Wastesavers, yn dosbarthu bagiau glas newydd ar gyfer ailgylchu cardfwrdd a phapur i'w defnyddio yn lle'r blwch glas presennol.

Bydd y cyngor a Wastesavers yn anfon llythyr a thaflen gyda phob bag newydd i egluro sut bydd y newidiadau yn gweithio.

Dyma’r newidiadau:

  • Mae cardfwrdd a phapur yn mynd yn y bag glas newydd.
  • Mae gwydr ac eitemau trydanol bach yn mynd ym mlwch gwyrdd presennol trigolion. Byddwn yn anfon sticer i fynd ar y bocs i atgoffa trigolion beth i'w roi ynddo.
  • Mae dillad neu decstilau yn mynd mewn bag plastig bellach, wedi'i glymu'n ddiogel a'i adael gyda'ch ailgylchu i'w gasglu.
  • Mae cartonau Bwyd a Diod yn mynd yn y bag coch presennol bellach,ynghyd â chaniau a phlastigau

Nid oes dim newidiadau i gasglu gwastraff bwyd, sy'n mynd yn y cadi gwastraff bwyd.

Mae'r bag newydd 60 y cant yn fwy na’r blwch glas y bydd yn ei ddisodli. Bydd hynny yn helpu trigolion i ailgylchu mwy ac yn ein helpu ni i wella cyfradd ailgylchu’r ddinas.

Mae Casnewydd eisoes yn un o ddinasoedd Cymru sydd â’r perfformiad gorau yn y DU o ran ailgylchu, gyda chyfraddau'n cyrraedd dros 67 y cant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru, mae angen i ni gynyddu hyn i 70 y cant erbyn 2024/25.

Wrth sôn am y newidiadau, dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: “Er bod llawer o gartrefi yng Nghasnewydd yn ailgylchu cymaint ag y gallan nhw, rydyn ni'n gwybod y gallai llawer mwy o wastraff gael ei ailgylchu o hyd.

“Mae ein bagiau newydd yn llawer mwy na'r blychau glas blaenorol, gan roi llawer mwy o le i drigolion ailgylchu, yn ogystal â bod yn haws i'w storio.

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu ac yn cadw Casnewydd ymysg y dinasoedd sydd â’r perfformiad gorau yn y DU.”

Gofynnir i drigolion sy’n dymuno ailgylchu eu blwch glas presennol ei adael tu allan gyda'u casgliad ailgylchu nesaf fel y gallwn ei gasglu.

Mae'r bagiau ailgylchu newydd yn cael eu dosbarthu cyn newid y ffordd y mae'r cyngor yn casglu gwastraff cartref nad oes modd ei ailgylchu.

Bydd y newid yn golygu bod gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei gasglu unwaith bob tair wythnos, yn hytrach nag unwaith bob pythefnos fel y mae ar hyn o bryd.

Drwy ddarparu mwy o gapasiti ailgylchu i drigolion, nod y cyngor yw ei gwneud yn haws i ailgylchu a lleihau faint o wastraff nad oes modd ei ailgylchu y bydd angen ei gasglu.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.newport.gov.uk/ailgylchu.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.