Decaying tree to be removed from Belle Vue Park
Wedi ei bostio ar Wednesday 18th March 2020
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn gwneud gwaith yn ddiweddarach y mis hwn i dynnu coeden o Barc Belle Vue.
Mae gan y goeden ffwng braced Ganoderma sy'n effeithio ar ei chyflwr strwythurol, ac felly penderfynwyd am resymau diogelwch i dynnu'r goeden fel mater o frys.
Mae tîm coed y Cyngor wedi bod wrthi'n monitro'r goeden am saith mlynedd gydag arolygon diogelwch cyffredinol a phrofion canfod pydredd uwch.
Mae'r prawf diweddaraf a gynhaliwyd yn gynharach eleni yn dangos bod y goeden wedi pydru ymhellach a bod y Cyngor wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i dynnu'r goeden sy'n peri risg i ddiogelwch y cyhoedd sy’n defnyddio'r llwybr wrth ei hymyl.
Bydd tynnu'r goeden yn ddiogel hefyd yn helpu i ddiogelu'r rhaeadrau hanesyddol gwreiddiol y mae'r goeden yn eistedd uwchben.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Planning-Housing/Trees/Trees.aspx