Newyddion

Y diweddaraf ar waith yng Ngorsaf Fysus Sgwâr y Farchnad

Wedi ei bostio ar Tuesday 14th May 2019
Market Square bus station new

Rydym ar ail gam y rhaglen waith, a ddechreuodd ar 1 Ebrill, i osod concrid yng nghyntedd Gorsaf Fysus Sgwâr y Farchnad.

Mae hyn yn golygu o ddydd Mercher 15 Mai bod angen i gontractwyr gau’r holl safleoedd bws i gwblhau’r atodlen waith.   

Fel y mae cwsmeriaid yn gwybod cafodd rhai gwasanaethau eu symud i Queensway felly bydd hyn yn parhau ac nawr yn cynnwys y Gwasanaeth 50 yn symud o Safle Q8 a’r X5 yn symud o Safle Q2.

Bydd gwasanaethau bws gan Stagecoach, NAT a Phil Anslow, a effeithir gan y gwaith yn parhau i adael o Queensway.

Mae hyn yn golygu o 15 Mai, hyd nes y rhoddir gwybod ymhellach, y bydd y gwasanaethau canlynol yn gweithredu fel a ganlyn:

Q8 – X15, 15, 50

Q7 – 56, R1

Q6 – 151

Q5 – 24X

Q4 – X24

Q3 – N2, N3

Q2 – X5

Bydd y First Severn Express 7X yn defnyddio’r safle y tu allan i orsaf drenau Casnewydd.

Dywedodd siaradwr dros Gyngor Dinas Casnewydd:  “Mae angen i gontractwyr gael mynediad i bob rhan o Orsaf Fysus Sgwâr y Farchnad er mwyn gallu cwblhau’r gwaith hwn.

“Mae hyn yn golygu bod y gwasanaethau bws a oedd yn gweithredu yno tra roedd y gwaith yn mynd rhagddo nawr yn gorfod symud i Queensway, ac eithrio'r First Severn Express 7X, sy’n stopio y tu allan i’r orsaf drenau. 

“Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra, os yw cwsmeriaid yn ansicr ynghylch y gwasanaethau cysylltwch â’r cwmni bws perthnasol.  Diolch i bawb am eich amynedd.”  

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.