Newyddion

Maes chwarae ar gau ar ôl i fandaliaid ddifrodi'r llawr

Wedi ei bostio ar Thursday 9th May 2019
Pill playground damaged pic 1

Difrod yn yr iard chwarae

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gorfod cau maes chwarae yn y Pîl ar ôl i fandaliaid ddifrodi’r safle.  

Mae’r llawr wedi’i ddifrodi gymaint, gyda rhannau helaeth o’r arwyneb yn gorfod cael eu codi, bod swyddogion y Cyngor wedi datgan nad yw’r ardal yn ddiogel i blant ei defnyddio.

Digwyddodd y difrod rhywbryd rhwng dydd Gwener 3 Mai a dydd Mawrth 7 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant a Hamdden, ei bod wedi’i synnu gan lefel y fandaliaeth.

“Rwyf wedi fy siomi gan y fandaliaeth sydd wedi mynd ymlaen yn y maes chwarae yn y Pîl ac oherwydd bod cyflwr y llawr yn anniogel rydym wedi gorfod cau’r safle.

“Rydym yn asesu'r difrod a hyd nes y gallwn gwblhau’r atgyweiriadau angenrheidiol bydd y maes chwarae ar gau,”, meddai’r Cynghorydd Harvey.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.