Newyddion

Adroddiad cynnydd Gorfodi Parcio Sifil

Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd May 2019

Mae’n bosibl y bydd preswylwyr wedi sylwi bod nifer o linellau melyn dwbl o amgylch y ddinas wedi cael eu hail-baentio cyn bod Cyngor Dinas Casnewydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldebau dros Orfodi Parcio Sifil ar 1 Gorffennaf.

Mae contractwyr wedi cwblhau gwaith mewn sawl ward ers dechrau’r rhaglen ym mis Ionawr ac ail-baentiwyd llinellau tra’r oedd ffyrdd ynghau yn ystod y marathon y mis diwethaf lle’r oedd hynny’n bosibl.

Yn yr wythnosau sydd i ddod, bydd contractwyr yn canolbwyntio ar y Maendy, ardaloedd Beechwood, Chepstow Road a chanol y ddinas, yn ogystal â safleoedd bysiau a thu allan i ysgolion.

Caiff arwyddion parcio eu diweddaru hefyd yn rhan o’r gwaith hwn.

Mae tîm o 14 swyddog gorfodi sifil wedi cael ei recriwtio hefyd a fydd yn patrolio’r strydoedd i sicrhau nad yw gyrwyr yn torri Rheolau’r Ffordd Fawr.

Os gwelir cerbyd wedi ei barcio’n anghyfreithlon, bydd y grym gan y swyddogion i gyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

Mae’r Cyngor yn cymryd y cyfrifoldeb dros orfodi parcio sifil gan Heddlu Gwent, a fydd yn ildio eu cyfrifoldeb gorfodi parcio ar 30 Mehefin 2019 gyda’r Cyngor yn ei gymryd drannoeth.

Bydd cyfrifoldeb dros orfodi deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â thraffig, yn enwedig o ran troseddau mwy difrifol neu pan fo angen er diogelwch y cyhoedd, yn aros gyda Heddlu Gwent.

Mae ymgyrch Gorfodi Parcio Sifil Cyngor Sir Casnewydd i atgoffa gyrwyr o Reolau’r Ffordd Fawr mewn perthynas â pharcio’n ddiogel yn defnyddio’r neges #ParciwchYnIawn ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.