Gall golffwyr helpu'r Maer i godi arian ar gyfer elusen
Wedi ei bostio ar Tuesday 26th March 2019
Mayor and Mayoress Councillor Malcolm Linton and Mrs Sharon Linton
Mae diwrnod llawn o golffio a phryd gyda’r nos ac adloniant oll yn rhan o ddigwyddiad arbennig a drefnir i helpu Maer Casnewydd, y Cynghorydd Malcolm Linton, godi arian ar gyfer ei elusennau enwebedig.
Mae’r diwrnod golff elusennol arbennig yn digwydd ddydd Mercher 17 Ebrill yng Ngwesty’r Celtic Manor.
Bydd y digwyddiad yn codi arian ar gyfer elusennau'r Maer, Cymdeithas Clefyd Niwronau Echddygol ac Epilepsy Action Cymru.
Y noddwr ar gyfer y digwyddiad yw Engie sy’n cefnogi’r elusen digartrefedd Llamau sy’n helpu pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd neu sydd ar eu pen eu hunain i ddod o hyd i lety addas.
Mae’r diwrnod golff elusennol yn dechrau gyda derbyniad brecwast, ac yna bydd y gêm golff yn dechrau am 11am.
Mae tîm pedwar pêl yn costio £360 ac mae hynny’n cynnwys chwarae golff, pryd gyda’r nos ac adloniant. Gall partneriaid hefyd ymuno yn y digwyddiad gyda’r nos a chymryd rhan drwy fynd i’r pryd a mwynhau’r adloniant am bris tocyn o £35.
Mae lleoedd yn dibynnu ar argaeledd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan e-bostio [email protected] <mailto:[email protected]> am ragor o fanylion.