Newyddion

Mae'r Cyngor yn cefnogi cymunedau awyddus i lanhau eu cymdogaethau

Wedi ei bostio ar Thursday 14th March 2019
Spring clean image march 2019 small

Gwanwyn Glân Cymru para rhwng 22 Mawrth a 23 Ebrill

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi addo cefnogi Gwanwyn Glân Cymru eleni, sy’n cael ei redeg gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

Bydd yr ymgyrch, a fydd yn para rhwng 22 Mawrth a 23 Ebrill, yn cynnwys miloedd o bobl yn glanhau strydoedd, parciau a thraethau ledled y wlad.

Mae Gwanwyn Glân Cymru’n rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr. Yn 2018, gwnaeth oddeutu 370,000 o #ArwyrSbwriel ymuno – er gwaethaf Bwystfil y Dwyrain yn achosi trafferthion – i gasglu sbwriel mewn 13,500 o ddigwyddiadau ledled y DU.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae Gwanwyn Glân Cymru yn dod ag unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau a chynghorau ynghyd i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd ar ein carreg drws.

“Rydym yn falch iawn bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi ymgyrch eleni a hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.

“Heb gynghorau ledled y wlad yn cefnogi’r ymgyrch, ni fyddai ein gwirfoddolwyr yn gallu gwneud y gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud.”

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Strydlun, ei fod yn falch o weld grwpiau’n bod yn rhagweithiol o ran taclo sbwriel.

“Rydym yn gwybod bod llawer o grwpiau a sefydliadau’n cynnal digwyddiadau casglu sbwriel drwy gydol y flwyddyn, felly byddai’n dda pe byddai pobl eraill yn gallu ymuno â’r ymgyrch arbennig hwn sy’n cael ei redeg gan Gwanwyn Glân Cymru.

“Rydym wir yn cefnogi’r gwaith y mae ein preswylwyr yn ei wneud i gefnogi’r gymuned ac sydd eisiau sicrhau bod eu hamgylchedd leol mor lân a thaclus â phosibl,” meddai’r Cynghorydd Jeavons.

Gall y Cyngor helpu gyda digwyddiadau lleol drwy fenthyg offer ac yna chodi’r bagiau sbwriel ar ôl y digwyddiad.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwneud hyn e-bostiwch [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth am Gwanwyn Glân Cymru ewch i https://www.keepwalestidy.cymru/cy

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.