Newyddion

Gwasanaeth codi baner y Gymanwlad yn y Ganolfan Ddinesig

Wedi ei bostio ar Friday 8th March 2019

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn nodi Gŵyl y Gymanwlad gyda gwasanaeth codi'r faner ar ddydd Llun 11 Mawrth.

Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Neuadd Ddinesig Casnewydd, am 10am, dan arweiniad Caplan y Maer, y Parchedig Diane Notley.

Yn ystod y gwasanaeth bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd Malcolm Linton, yn darllen neges bersonol gan Ysgrifennydd Cyffredinol Gwledydd y Gymanwlad, y Gwir Anrhydeddus Patricia Scotland.

Bydd Cadarnhad y Gymanwlad, a ysgrifennwyd yn arbennig, yn cael ei ddarllen gan Ddirprwy Arglwydd Raglaw Gwent, y Lefftenant Gyrnol Andrew Tuggey, cyn codi'r faner, gweithred a gaiff ei hailadrodd ym mhedwar ban byd.

Bydd pobl o bob oedran a chefndir yng ngwledydd y Gymanwlad yn ailymrwymo i weithio "tuag at ddyfodol cyffredin", y thema ar gyfer eleni a chyfarfod penaethiaid llywodraethau'r Gymanwlad sy'n cael ei gynnal yn y DU ym mis Ebrill.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.