Newyddion

Digwyddiad Heneiddio'n Dda yng Nghymru

Wedi ei bostio ar Friday 15th March 2019

Mae preswylwyr Casnewydd yn cael eu gwadd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddysgu sut y gall pobl weithio gyda'i gilydd i wneud Cymru y lle gorau i dyfu'n hŷn.

Heneiddio'n Dda yng Nghymru: Cynhelir Dathlu Cymunedau ar 27 Mawrth yng Nghanolfan Casnewydd rhwng 10am a 3pm.

Caiff ei drefnu mewn partneriaeth â rhaglen ymgysylltu BAME Cymru Gyfan, BAME Cymru Elders, Diverse Cymru, Cyngor Hil Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd.

Gall pobl helpu i ddathlu'r gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a dysgu sut y gallant weithio gyda'i gilydd i wneud cymunedau'n fwy cefnogol a chynhwysol.

Bydd y diwrnod yn cynnwys nifer o siaradwyr gan gynnwys Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Adam Smith, o Rainbow, a Vernesta Cyril OBE, noddwr Hanes Pobl Ddu Cymru ac aelod Fforwm Pobl Oedrannus BAME Cymru Casnewydd.

Bydd cyfle i bobl ddweud beth mae heneiddio'n ei olygu iddyn nhw.

Argymhellir archebu drwy fynd i <https://bit.ly/2HidMgx>, ffonio 02920 445030 neu e-bostio [email protected] <mailto:[email protected]>

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.