Newyddion

Ymgyrch #ParciwchYnGywir yn lledaenu neges diogelwch

Wedi ei bostio ar Monday 10th June 2019
car on double yellows

#ParciwchYnGywir

Mae ymgyrch gynhwysfawr i sicrhau bod dinasyddion Casnewydd yn ymwybodol y bydd yr awdurdod lleol yn cymryd dros gyfrifoldebau Gorfodi Parcio Sifil wedi’i nodi’n llwyddiant.

Mae amrywiaeth o negeseuon, gan ddefnyddio’r hashnod #ParciwchYnGywir, wedi cael eu rhoi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd, gan gynnwys ar y wefan, ar Facebook ac ar Twitter.

Maent i gyd yn pwysleisio bod angen i yrwyr ddilyn rheolau’r ffordd fawr – ac os bydd pawb yn dilyn y rhain, yna bydd y ddinas yn lle mwy diogel i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr.

Mae ffigurau cyfrifon Twitter a Facebook y Cyngor yn dangos bod y negeseuon wedi’u gweld miloedd o weithiau ac wedi’u rhannu ar draws y llwyfannau hyn.

Am y chwe mis diwethaf, mae’r Cyngor wedi rhyddhau sawl datganiad hefyd ynglŷn â chynnydd y project Gorfodi Parcio Sifil a sut y bydd yn gweithredu ym mhob rhan o’r ddinas pan fydd yn cymryd dros gyfrifoldebau Heddlu Gwent ar 1 Gorffennaf 2019.

Mae arwyddion ffyrdd a rheoliadau traffig, gan gynnwys llinellau melyn sengl a dwbl, wedi cael eu hadnewyddu neu eu hailosod i sicrhau bod pawb yn glir o ran lle dylent barcio’n ddiogel.

Yn ogystal, bydd tîm o Swyddogion Gorfodi Sifil yn patrolio ac yn cyflwyno hysbysiadau cosb i droseddwyr sy’n mynd yn groes i’r rheoliadau traffig.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas: “Yn y misoedd cyn i ni gymryd dros y cyfrifoldebau Gorfodi Parcio Sifil, rydym wedi cael adborth rheolaidd gan y cyhoedd, sy’n edrych ymlaen atom yn mynd i’r afael â gyrwyr sy’n amlwg yn anwybyddu rheolau’r ffordd.

“Rydym wedi bod yn rhoi negeseuon cyson ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan gan ddefnyddio’r hashnod #ParciwchYnGywir, a gwyddom eu bod wedi cael eu gweld miloedd o weithiau.

“Y neges yw parciwch yn gywir a pharciwch yn ddiogel, ac mae angen i bawb ddilyn y rheolau.”

Bydd hysbysiad swyddogol o fwriad y Cyngor i gymryd cyfrifoldebau Gorfodi Parcio Sifil yn cael ei argraffu yn y cyfryngau lleol yn yr wythnosau nesaf.

Ceir manylion llawn o’r hyn y mae Gorfodi Parcio Sifil yn ei olygu ar wefan y Cyngor. Ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Transport-Streets/Parking/Civil-Parking-Enforcement.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.