Newyddion

Project rhandiroedd i helpu'r gymuned

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th July 2019
Cae Perllan allotments ground crew

Tîm cynnal tir o’r chwith i’r dde Phil Evans, Andrew Price, Wayne Davis, Frank Rundle a Cliff Mullen

Bydd project i roi bywyd newydd i safle rhandiroedd a arferai fod yn segur yn rhoi hwb i broject cymunedol diolch i grŵp o ddeiliaid rhandiroedd, gwirfoddolwyr a busnesau lleol.

Y nod yw defnyddio safle rhandir Cae Perllan i dyfu bwyd ffres a all gael ei roi i Fanc Bwyd Casnewydd.

Mae’r gwaith i baratoi’r hen safle a esgeuluswyd gynt wedi bod yn mynd rhagddo ers rhai wythnosau ac mae tîm tir Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda ysgrifennydd safle’r rhandiroedd, Del Brooks a busnesau lleol i glirio’r tomen o ddrain a orweddai dros bum llain.

Bellach mae Del a’i wirfoddolwyr am i drigolion lleol a mwy o fusnesau helpu, i dyfu’r project fel bod modd cynaeafu bwyd ffres a’i roi i bobl mewn angen.

Os hoffai unrhyw un noddi llain, cost rhentu un yw £60 y flwyddyn a bydd croeso mawr i unrhyw un all gyfrannu hadau, offer neu eu hamser.

Rhoddodd y Cynghorydd Deb Harvey, aelod cabinet y cyngor dros ddiwylliant a hamdden, ganmoliaeth i’r gwirfoddolwyr, y busnesau a staff y cyngor am y gwaith sy’n cael ei wneud fel bod modd defnyddio rhandiroedd Cae Perllan unwaith yn rhagor.

“Mae’r gwaith a wnaed hyd yma ar y safle’n deyrnged i waith caled Del Brooks, gwirfoddolwyr, busnesau lleol a staff y cyngor.

“Ar ran Cyngor Dinas Casnewydd hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r project, sy’n golygu y gall bwyd a dyfir gael ei roi i Fanc Bwyd Casnewydd. Dyma fenter gymunedol wych rydym yn ei chroesawu.

“Ni ddefnyddiwyd safle rhandiroedd Cae Perllan ers tro, felly mae’n dda gweld y safle’n cael bywyd newydd.

“Gobeithio y bydd pobl yn cynnig helpu Del a’i wirfoddolwyr i ddatblygu’r project drwy roi eu hamser, eu harian neu eu hoffer.”

Gall busnesau noddi llain am £60 y flwyddyn, ond yn ddelfrydol byddai’n dda pe gallent ymrwymo i ddwy flynedd, gan mai dyna faint o amser y bydd yn ei gymryd i baratoi’r rhandiroedd ac i fedi’r cynnyrch cyntaf.

Yn benodol, hoffai’r cyngor ddiolch i’r noddwyr sydd eisoes yn rhan o’r project gan gynnwys High Cross UPVC Developments Casnewydd, Ezee Fit Tyres Ltd yn Rhisga, Border Bobcat Ltd yn Ystâd Ddiwydiannol Tywysog Cymru, Castrellau Garden Services, CC Morgan & Sons yng Nghwmbrân a’r gŵr lleol John Travis ynghyd â thîm cynnal tir y cyngor sy’n cynnwys Phil Evans, Andrew Price, Wayne Davis, Frank Rundle a Cliff Mullen.

Os hoffai unrhyw un gyfrannu at y project, neu os oes ganddynt ddiddordeb mewn hawlio llain ar y safle i’w defnyddio eu hunain, e-bostiwch [email protected]

Mae gan y cyngor hefyd ystod eang o randiroedd yn y ddinas sydd ar gael i’w rhentu.

Os hoffech dyfu’ch bwyd eich hun ond nad oes gennych ddarn addas o dir, neu os hoffech weithio’n yr awyr agored ar eich pen eich hun, gyda’ch teulu neu gyda grŵp o ffrindiau cysylltwch ag ysgrifennydd y safle yn yr ardal yr hoffech gael rhandir.

Ewch i http://www.newport.gov.uk/en/Leisure-Tourism/Allotments/Allotments.aspx i weld rhestr o safleoedd a chael mwy o fanylion am sut i ddod yn ddeiliad rhandir.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.