Ysgol Uwchradd Llanwern yn dathlu adroddiad Estyn
Wedi ei bostio ar Wednesday 18th December 2019
Mae pennaeth, cadeirydd a bwrdd llywodraethwyr, staff a chymuned Ysgol Uwchradd Llanwern wrthi’n dathlu’r newyddion da fod yr ysgol wedi’i symud o gategori ‘gwaith dilynol’ Estyn.
Gwnaeth Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Dinas Casnewydd y Cynghorydd Gina Giles ganmol y pennaeth Tracey Jarvis, cadeirydd y llywodraethwyr y Cynghorydd Debbie Harvey, a staff am eu hymrwymiad a’u penderfyniad.
Dywedodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn, yn dilyn ymweliad â’r ysgol ym mis Tachwedd 2019, fod yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd o ran yr argymhellion yn dilyn yr arolwg craidd diweddaraf gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Ei Mawrhydi.
O ganlyniad tynnwyd yr ysgol oddi ar y rhestr “angen gwelliant sylweddol”.
“Dyma newyddion gwych i Ysgol Uwchradd Llanwern, y pennaeth, y cadeirydd a bwrdd y llywodraethwyr, staff a disgybl,” meddai’r Cynghorydd Giles.
“Rwy’n llongyfarch pawb am y cyflawniad rhagorol hwn, a gydnabuwyd gan Estyn.
“Mae’r ysgol bellach mewn sefyllfa gref i adeiladu ar ei chryfderau a arweiniodd at yr ysgol yn cael ei symud allan o bob categori.”
Noda Estyn gynnydd sylweddol ar godi safonau a gwella sgiliau rhifedd a llythrennedd disgyblion, ymddygiad a phresenoldeb gwell ac mae bellach ystod addas o ddulliau o wella effeithiolrwydd addysgu ac asesu.
Amlygodd yr adroddiad hefyd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fod y pennaeth newydd wedi sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer gwella y mae’r staff yn ei deall i’r dim mewn dull sefydledig arwain sydd wedi’i gydlynu’n dda a phroses gwerthuso a gwella gref sy’n canolbwyntio ar addysgu, dysgu a lles.