Newyddion

Hwyl yr Ŵyl i blant a phobl ifanc

Wedi ei bostio ar Friday 27th December 2019

Mae trigolion a busnesau caredig wedi helpu i daenu ychydig o hud y Nadolig dros fywydau plant a phobl ifanc yng Nghasnewydd.

Mae pobl ifanc sy'n gadael gofal wedi cael hamperi Nadolig diolch i breswylydd caredig a noddwyr hael.

Trefnodd Sally Wakely 52 o hamperi ar gyfer pobl ifanc sy'n byw mewn llety annibynnol neu lety â chymorth.

Cafwyd rhoddion gan y canlynol, neu fe'u prynwyd diolch i gyfraniadau ariannol: y POD; Maindee Handyman; Wolfberry; Kingsley; Foxwood Recruitment; WHAT yng Nghasnewydd a Chaerffili. Cyfrannwyd rhoddion hefyd gan aelodau'r gymuned.

Cafodd pobl ifanc sy'n derbyn cymorth gan y dîm amddiffyn plant hefyd anrhegion Nadolig diolch i Dave Rees, o elusen y Dalmation Bike Ride, a gyfrannodd dros 300 o roddion, a'r noddwyr, Banc Lloyds, Airbus, Jojo Mama Bebe, Tesco ar Ffordd Caerdydd a Shared Services Connected Cyf.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau cymdeithasol: "O waelod calon, hoffwn ddiolch i bawb a drefnodd y cyfraniadau bendigedig hyn am fod mor hael ac ystyriol,"

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.