Busnes o Gasnewydd yn llunio dyfodol llwyddiannus
Wedi ei bostio ar Wednesday 7th August 2019
Sefydlodd Joanna Iwanowicz ei busnes dylunio graffeg Ilove Designs ym mis Ebrill 2017 ac mae'n cyflogi un aelod o staff erbyn hyn yn ei gweithdy ar Corporation Road.
Cafodd gymorth grant gan Gyngor Dinas Casnewydd tuag at ei rhent ac argraffydd fformat mawr.
Mae Ilove Designs yn dylunio a chreu deunyddiau a dillad print ac yn cynnig gwasanaethau dylunio gwefannau a logos, graffeg ar gyfer cerbydau, arwyddion lleoliadau, torri laser ac ysgathru.
Roedd Joanna yn hynod ddiolchgar am y cymorth a gafodd gan y cyngor. "Roedd modd i fi fuddsoddi mewn peiriant newydd sbon yn hytrach na dibynnu ar un ail-law ac mae wedi bod yn hwb mawr i'r gwaith cynhyrchu."
Cyflogodd ei haelod staff drwy Twf Swyddi Cymru ac mae'n bwriadu cyflogi rhagor o staff.
Bu'r Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet y cyngor dros adfywio a thai, ar ymweliad â Ilove Designs yn ddiweddar lle cyfarfu â Joanna.
"Mae'n hyfryd gweld mentrau creadigol yn ymsefydlu'n y ddinas ac rwyf wrth fy modd bod y cyngor wedi gallu helpu Joanna i dyfu ei busnes. Pob llwyddiant iddi i'r dyfodol."