Newyddion

Mae cynnig gofal plant Cymru yn dod i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 31st May 2018

O fis Medi 2018, bydd teuluoedd yng Nghasnewydd ymhlith y rhai yng Nghymru sy'n gallu hawlio 30 awr o ofal plant am ddim.

Bydd rhieni neu warcheidwaid cymwys yng Ngaer, Maesglas, Rogerstone, Llyswyry, Malpas, St Julian's, Stow Hill a Shaftesbury yn gallu gwneud cais ar-lein o 24 Gorffennaf.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cael ei beilota yn yr wyth ward hynny yr hydref hwn cyn cael ei gyflwyno'n raddol ar draws y ddinas.

Bydd yn cynnwys cyfuniad o ddarpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen sy'n agored i bob plentyn tair a phedair blwydd oed a'r gofal plant ychwanegol a ariennir i deuluoedd cymwys.

Mae'n rhaid i blant fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Bod â phlentyn tair neu bedair oed a all gael mynediad at addysg ran-amser
  • Mae'n rhaid iddynt fod yn byw yn un o'r ardaloedd peilot yng Nghasnewydd
  • Mae'n rhaid i'r ddau riant fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu un rhiant, ac yn gweithio am 16 awr neu fwy, naill ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig

NEU

  • Yn ennill cyfwerth â gweithio am 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu'r isafswm cyflog cenedlaethol

NEU

  • Yn derbyn budd-daliadau gofal penodol

Dywedodd y Cynghorydd David Mayer, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Gymunedau ac Adnoddau: "Rwy'n falch y bydd rhieni yng Nghasnewydd bellach yn gallu manteisio ar y cynllun hwn sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun ar gael yn yr ardaloedd peilot i ddechrau ac wedyn ar draws y ddinas.

"Rydym yn gwybod y gall costau gofal plant weithiau atal rhieni sydd eisiau gweithio rhag gallu gwneud hynny, neu maent yn gweld bod eu cyflog yn cael ei wario i gyd ar ffïoedd. Rwy'n siŵr y bydd y cynnig gofal plant yn cael ei groesawu gan y rhieni sy'n gymwys iddo."

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Children-and-families/Family-Information-Service/Childcare/Childcare-offer.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.