Cynnig gofal plant

Childcare Offer Logo

Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru wedi bod ar gael ym mhob ardal yng Nghasnewydd ers mis Hydref 2018.

Trwy Gynnig Gofal Plant Cymru, fe allech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn. Nod y cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yw lleihau baich costau gofal plant.

Mae’r cynnig ar gael i blant o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed* pan gânt gynnig lle mewn addysg llawn amser.

Mae’r cynnig gofal plant ar wahân i’r cais am le mewn addysg feithrin (a elwir weithiau yn ‘addysg gynnar’ neu ‘codi’n 3 oed’).

Gall ymgeiswyr wneud cais hyd at 90 diwrnod cyn dechrau eu tymor cymwys. I gael 30 awr o ofal plant yn ystod y tymor, mae angen i chi fod wedi gwneud cais am y cynnig gofal plant ac addysg feithrin a chael eich cymeradwyo am hyn.

Yn ystod y naw wythnos o wyliau, mae’r 30 awr llawn ar gael dan y cynnig gofal plant yn unig.

*Bydd plant sy’n troi’n 3 rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth yn gymwys i ddechrau’r Cynnig Gofal Plant o dymor yr Haf.

Bydd plant sy’n troi’n 3 oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i ddechrau’r Cynnig Gofal Plant o dymor yr Hydref ymlaen.

Bydd plant sy’n troi’n 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn gymwys i ddechrau’r Cynnig Gofal Plant o dymor y Gwanwyn ymlaen.*

I gael manylion llawn am y cynnig, cymhwysedd a sut i wneud cais cliciwch ar y ddolen isod.

 

Gwnewch gais yma

 

Mae cymorth pellach hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Rhieni yn cael cymorth gyda Chynnig Gofal Plant Cymru ac Rhieni yn rheoli cytundebau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.

Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant

Er mwyn galluogi rhieni i ddewis eich lleoliad ar gyfer gofal plant, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer gwasanaeth digidol y Cynnig Gofal Plant. Gweler isod ddolenni a fydd yn darparu cymorth o wefan Llywodraeth Cymru.

 

Childcare offer graphic CYM

Cyswllt

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â llinell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru:

Ffôn: 03000 628 628

Mae’r llinell gymorth ar agor: Dydd Llun i ddydd Iau 09:00am-17:00pm ac Dydd Gwener 09:00am-16:30pm

E-bost:[email protected]