Newyddion

Gofalu am ofalwyr

Wedi ei bostio ar Friday 8th June 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal digwyddiadau am ddim gan gynnwys te pnawn a sesiwn grefftau i nodi Wythnos Gofalwyr 2018 ym Mehefin.

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalwr, amlygu'r heriau maen nhw'n eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad a wnânt, nid yn unig i deuluoedd ond i gymunedau hefyd.

Caiff lleoedd yn nigwyddiadau Casnewydd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin ond mae modd eu cadw drwy ffonio 01633 235650 neu e-bostio [email protected]

Mae Barnardo's hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ystod yr wythnos.

Mae'r cyngor yn cydnabod ymrwymiad y 17,319 o ofalwyr yn y ddinas ac mae croeso cynnes iddynt yn y digwyddiadau gan y tîm gofalwyr. Bydd cyfle i gwrdd â gofalwyr eraill i gael sgwrs a dysgu pa gymorth sydd ar gael.

Mae'r rhaglen yng Nghasnewydd fel a ganlyn:

Dydd Llun 11 Mehefin - 1pm i 3pm, te pnawn yn heuldy Parc Bellevue ac ystafelloedd te. Gwahoddir gofalwyr i gwrdd â gofalwyr eraill am luniaeth a sgwrs.

Dydd Mawrth 12 Mehefin - 10.30am i 12pm, mae brecwast cymdeithasol i ofalwyr yn The Pot yn Arcêd Casnewydd, yr Heol Fawr.

Dydd Iau 14 Mehefin - 10am i 1.30pm, sesiwn gelf a chinio ysgafn yng Nglan yr Afon. Gall gofalwyr fwynhau amser creadigol heb brofiad blaenorol.

Bydd tîm gofalwyr cysylltu cymunedol y cyngor yn y Llyfrgell Ganolog yn Sgwâr John Frost  rhwng 10am a 2pm ddydd Gwener 15 Mehefin yn cynnig cymorth, cyngor, gwybodaeth neu sgwrs.

Yn ystod Wythnos Gofalwyr bydd hefyd sesiwn galw heibio newydd yn cael ei lansio'n y Llyfrgell Ganolog ar ail a phedwerydd dydd Gwener y mis rhwng 10.30am a 12.30pm.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.