Newyddion

GGGC diwygiedig ar gyfer canol dinas Casnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 8th January 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cychwyn adolygiad o'r Gorchymyn Gwarchod Gofod Cyhoeddus (GGGC) sy'n cynnwys canol y ddinas ar hyn o bryd.

Cytunodd aelodau'r pwyllgor rheoli craffu a throsolwg ar 8 Ionawr mai dyma'r amser i adolygu'r GGGC a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2015 wrth iddo ddod i ben y mis Tachwedd hwn ac mae'n rhaid ei adnewyddu cyn hynny.

Gan fod yr adolygiad yn cynnwys rhai newidiadau, cytunodd y pwyllgor ar gynllun ymgynghori i geisio barn y cyhoedd ar y cynigion hyn, a lle y mae problemau gyda mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd angen mynd i'r afael â hwy.

Mae'r adolygiad yn archwilio pa gynigion y gellir eu cadw neu eu diwygio, ac a oes angen i ni gyflwyno cyfyngiadau newydd er mwyn mynd i'r afael â mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.

Amlygodd adroddiad i’r pwyllgor craffu broblem benodol, sef pobl ifanc yn casglu ger siopau pryd ar glud yng nghanol y ddinas, yn hwyr yn y prynhawn a gyda'r nos.

Mae'r heddlu yn dweud bod 29 y cant o'r galwadau maent yn derbyn yng nghanol y ddinas yn ymwneud â gangiau/ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid sy'n waeth ar benwythnosau.

Y Stryd Fawr yw'r ardal sydd â’r lefel uchaf o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd yng nghanol y ddinas.

O'r cynigion sydd ar gael yn ystod yr ymgynghori, y mae un i wasgaru grwpiau sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol ac un arall i atal pobl rhag cardota yn agos at beiriannau arian parod, yn dilyn cwynion gan y cyhoedd.

Bellach gofynnir i'r cyhoedd wneud sylwadau ar yr holl gynigion i gryfhau’r rheolaethau ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.

Bydd yr ymgynghoriad yn para deufis gyda'r canlyniadau yn dod yn ôl i'r pwyllgor trosolwg a rheoli craffu yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill 2018 i’w hadolygu ac i wneud argymhellion i'r Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio ac i'r Cyngor ynghylch pa gyfyngiadau sydd i'w cynnwys yn y gorchymyn diwygiedig.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.