Newyddion

Ras 10K a Marathon Cymru Casnewydd ABP – popeth mae angen i chi ei wybod

Wedi ei bostio ar Friday 27th April 2018
ABP Newport Marthon logo_2018

 

Bydd oes newydd ar gyfer rhedeg pellter mawr yng Nghymru’n dechrau yn Ras 10K a Marathon Cymru Casnewydd ABP ddydd Sul. 

Bydd bron i 6,000 o redwyr yn mentro’r pellter blinderus o 26.2 milltir gyda 4,000 o bobl eraill yn cystadlu yn y ras 10K. Disgwylir i oddeutu 30,000 o gefnogwyr a gwylwyr ymgasglu yn strydoedd y ddinas.

Faint o’r gloch fydd yn dechrau?

Bydd Ras 10K a Marathon Cymru Casnewydd ABP ar ddydd Sul 29 Ebrill. Mae’r marathon yn dechrau am 09:00 ac mae’r ras 10K yn dechrau am 09:45.

Beth yw’r llwybr?

Mae’r llwybr ar gyfer Marathon Cymru Casnewydd ABP wedi’i ddyfeisio gan y rhedwr marathonau Olympaidd dwbl, Steve Brace. Bydd yn dechrau ac yn gorffen ar lan yr afon bywiog Casnewydd a gall ymfalchïo yn y ffaith bod ganddo un o’r llwybrau marathon mwyaf gwastad yn y DU.

Bydd y llwybr un tro yn mynd â rhedwyr heibio i Brifysgol De Cymru a bwrlwm canolfan siopa Friars Walk, cyn croesi’r Bont SDR, trwy ochr ddwyreiniol y ddinas ac i mewn i’w rhannau gwledig. Cyn carlamu ar hyd Afon Wysg tua’r llinell groesi, bydd cyfle i redwyr fwynhau bywyd gwyllt arfordirol Gwastatiroedd Gwent a Gwlyptiroedd Casnewydd - un o safleoedd gwylio adar mwyaf poblogaidd yn y DU.

Mae’r llwybr 10K hefyd yn dechrau ar Lan yr Afon ac yn mynd trwy ganol y ddinas sydd wedi'i adnewyddu ac ar hyd Pont Gludo Casnewydd.

Ble mae Pentref y Ras?

Caiff Pentref y Ras ei sefydlu yng nghysgod Ton Casnewydd ar hyd Afon Wysg. Mae rhywbeth i bobl o bob oedran felly dewch â'r teulu cyn gwylio dechrau'r ddwy ras sy’n bellter cerdded byr ar hyd Usk Way.

Bydd ynddo lu o adloniant i'r teulu, gweithgareddau chwaraeon ac adloniant byw. Ymwelwch â’n noddwr ac arddangoswyr cyffrous, mwynhau sesiwn tylino ar ôl y ras neu ddathlu eich cyflawniadau yn y bar! Mae hefyd llu cyfan o ddewisiadau bwyta a hamdden yng nghanolfan siopa Friars Walk sy’n gyfagos. 

Beth arall sy’n digwydd?

Mae Marathon Cymru Casnewydd ABP yn llawer mwy na ras 26.2 milltir. Bydd rhedwyr y dyfodol yng ngolwg y cyhoedd yn ystod y Filltir i’r Teulu. Mae ABP wedi cyfrannu lleoedd i blant ysgolion lleol fydd yn cael gwir brofiad o ddiwrnod ras wrth iddynt ddechrau ac yn gorffen dan y nenbont am 12:30. Cyn iddynt ddechrau, cânt y cyfle i dwymo lan gyda rhedwr penigamp Cymru Christian Malcolm yn rhan o’i fenter ymddiriedolaeth.

Mae hefyd ras i fasgotiaid yn cynnwys cystadleuaeth rhwng timau rygbi a phêl-droed Casnewydd.

Ble gallaf i barcio ar ddiwrnod y ras?

Mae gwasanaeth parcio a theithio’n gweithredu o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ond mae’r lleoedd i gyd bellach yn llawn. Mae manylion am ddewisiadau parcio yn y ddinas yma.  Ni fydd modd defnyddio’r meysydd parcio canlynol yn ystod y digwyddiad: Meysydd parcio Emlyn Street, Glan yr Afon a Friars Walk – ond mae Park Square wedi’i agor i redwyr a gwylwyr.

Fydd ffyrdd ar gau?

Bydd ffyrdd yn cael eu cau yn ystod oriau cynnar dydd Sul 29 Ebrill ac mae angen gwneud hyn i alluogi’r ras i ddigwydd ac i amddiffyn rhedwyr. 

Mae preswylwyr a busnesau ar hyd y llwybr wedi derbyn manylion ysgrifenedig llawn ac mae nifer o ddigwyddiadau gwybodaeth wedi'u cynnal.

Edrychwch ar fapiau a manylion am ffyrdd fydd ar gau ar hyd y llwybr.

Mae rhestr o ffyrdd y effeithir arnyn hefyd ar gael yn http://www.newport.gov.uk/cy/Leisure-Tourism/Activities/Newport-marathon.aspx

Ble mae’r lle gorau i wylio?

Mae rhedeg 26 milltir yn gyflawniad mawr ac mae’r cymorth y mae rhedwyr yn ei gael yn eithriadol bwysig, felly yn ffodus mae llawer o leoedd y gallwch wylio eich anwyliaid.

Bydd awyrgylch parti yn yr ardal dechrau/gorffen ar Usk Way, a llawer o leoedd i ddangos eich cefnogaeth yn agos at y Bont Gludo ac ym mhentrefi del y Redwig a Magwyr. 

Mae’r Partner Elusen Blaenllaw, yr NSPCC, yn cynnig cyfle unigryw i breswylwyr lleol a gwylwyr i gymryd rhan yn awyrgylch diwrnod y ras. Maent yn cynnig pecyn cefnogi Ras 10K a Marathon Cymru Casnewydd ABP, sy'n cynnwys pom poms, chwibanau, clychau buchod a llawer mwy! I gael eich pecyn chi, e-bostiwch [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.