Newport marathon
Marathon Casnewydd Cymru
Dydd Sul 5 Mai 2019
Cynhelir yr ail Farathon a 10k Casnewydd Cymru ddydd Sul 5 Mai 2019.
Cofrestrodd bron i 10,000 o redwyr ar gyfer y Marathon, y ras 10k a Milltir y Teulu yn 2018 a disgwylir niferoedd uchel eto eleni.
Y llynedd daeth miloedd allan i strydoedd Casnewydd i ddangos eu cefnogaeth ac rydym yn disgwyl gweld miloedd ar hyd y llwybr eto.
Trefnir y digwyddiad gan Run 4 Wales , y tîm y tu ôl i ddigwyddiadau fel Hanner Marathon Caerdydd a Velothon Cymru, gyda chefnogaeth Associated British Ports, Cyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru.
Dysgwch fwy am y digwyddiad gan gynnwys manylion ynghylch parcio a ffyrdd ar gau neu darllenwch ein newyddion diweddaraf am y marathon.