Newyddion

#SafwnYnghyd

Wedi ei bostio ar Friday 26th May 2017

Bydd teyrnged Casnewydd i’r 22 o bobl a fu farw a’r 64 o bobl a anafwyd yn yr ymosodiad ar Fanceinion yn cael ei chynnal yn Sgwâr Westgate nos Wener am 6pm. 

Mae trefnwyr, gan gynnwys y cyngor, Mosgiau, eglwysi, elusennau, grwpiau ieuenctid ac ysgolion yn hyrwyddo’r digwyddiad fel dathliad o fywydau’r bobl a effeithiwyd ac maent wedi addo y bydd yn cael ei arwain gan blant a phobl ifanc y ddinas. Maent yn awyddus i weld cymaint â phosibl o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn y digwyddiad i ddangos eu hundod â phobl Manceinion  Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae plant a phobl ifanc yn werthfawr i bobl pob cymuned, sy'n gwneud yr ymosodiad hwn yn fwy erchyll byth. Mae cymunedau Casnewydd wedi ymrwymo i roi cyfle i’n plant a phobl ifanc leisio'u barn.  Bydd y digwyddiad hwn yn adlewyrchu’r holl ddelfrydau hynny”.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cerddoriaeth a datganiadau gan yr ysgolion lleol, Ysgol Gyfun Is Coed a St Julians, a ddilynir gan set cerddoriaeth fyw a gefnogir gan Newport City Radio a geiriau o fyfyrdod gan bobl ifanc o grwpiau ieuenctid yn Maindee, y Pîl a Chymdeithas Islamaidd Cymru. Daw i ben gydag ychydig o eiriau gan arweinwyr y ffydd Gristnogol a’r ffydd Fwslimaidd a munud o dawelwch.

Dywedodd Mubarak Ali o Gymdeithas Islamaidd Gwent, sydd wedi trefnu gwylnosau golau cannwyll mwy traddodiadol yn y gorffennol, "Roedden ni'n teimlo'r angen i fynd y tu hwnt i eiriau a dangos bod pobl o wahanol gefndiroedd wir yn gweithio, byw a chwarae gyda'i gilydd yn y ddinas hon. Nid myth mo cydlyniad, mae’n realiti ac mae’n teimlo’n dda”.

Anogir unrhyw un sy’n dymuno mynychu’r digwyddiad nos Wener i ddod draw. Dywedodd Kebba Manneh o SEWREC, elusen sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, “Croeso i bawb. Gall pobl ddod â chanhwyllau, blodau, ond bwysicaf oll, gofynnwn iddynt ddod â’u ffrindiau a’u teuluoedd”

Gofynnir i unrhyw berson ifanc neu grŵp o bobl ifanc sy’n dymuno cymryd rhan gysylltu â David Phillips ar 01633 250 006 neu [email protected] neu ddod draw.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan:

  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Gwasanaeth Ieuenctid Dinas Casnewydd
  • Newport City Radio
  • SEWREC
  • Cymdeithas Islamaidd Cymru 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.