Neges atgoffa i ddarpar ymgeiswyr cyngor
Wedi ei bostio ar Monday 27th March 2017
Bydd trigolion Casnewydd yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio ddydd Iau 4 Mai i ethol y 50 o gynghorwyr a fydd yn eu cynrychioli yng nghyngor y ddinas am y pedair blynedd ganlynol.
Mae'r swyddog canlyniadau Will Godfrey yn atgoffa ymgeiswyr bod rhaid iddynt gyflwyno eu henwebiadau erbyn 4pm ar 4 Ebrill.
Dywedodd: "Mae dyddiad cau llym ac ni dderbynnir unrhyw ffurflenni ar ôl 4pm ar y diwrnod hwnnw, ni waeth beth fo'r amgylchiadau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd am sefyll sicrhau bod eu henwebiadau yn cael eu cyflwyno mewn da bryd i osgoi problemau munud olaf."
Mae gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr, gan gynnwys ffurflenni enwebu a meini prawf cymhwysedd ar gael yn http://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Elections-and-voting/Elections-and-voting.aspx