Canol y ddinas yn croesawu band y Llynges Frenhinol
Wedi ei bostio ar Tuesday 13th June 2017
Bydd Band Llynges Frenhinol Ei Mawrhydi Collingwood yn perfformio yn Sgwâr John Frost, ddydd Gwener 16 Mehefin.
Bydd y band, a sefydlwyd yn 2009 o ganlyniad uniongyrchol i gau’r band a oedd yng Ngholeg Morwrol Brenhinol Britannia yn Dartmouth, yn perfformio am 30 munud yn dechrau am 12.30pm.
Yn ddiweddar, mae’r band wedi perfformio mewn llawer o ddigwyddiadau gan gynnwys seremoni agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd yn Twickenham, Gemau Invictus a Gemau Olympaidd Llundain.
Bellach dan arweinyddiaeth Maer Jon Ridley RM, mae’r band wedi perfformio mewn digwyddiadau proffil uchel y flwyddyn hon gan gynnwys Gŵyl Gerdd Mountbatten, trip i Ynysoedd y Malvinas i gymryd rhan ym Mharêd Dathlu'r Frenhines, Parêd y Gwarchodlu Ceffylau yn Llundain a pherfformiad yn Grand Prix Silverstone.
Mae Band Llynges Frenhinol Ei Mawrhydi Collingwood yn cyfrannu’n helaeth at y Gwasanaeth Morwrol a buddion ehangach y DU. Mae ei gyngherddau’n codi arian i elusennau’r Gwasanaeth ac mae’n perfformio mewn digwyddiadau cenedlaethol a lleol.