Newyddion

Casgliadau biniau y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd bydd yn ddiwrnod yn ddiweddarach

Wedi ei bostio ar Wednesday 13th December 2017
bin lorry

Hoffai Cyngor Dinas Casnewydd a Wastesavers atgoffa trigolion y bydd casgliadau biniau ac ailgylchu wythnosol ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer dros gyfnod y Nadolig.

I osgoi camgymeriadau, mae casgliadau dros gyfnod y Nadolig fel a ganlyn:

Cesglir biniau y disgwylir iddynt gael eu casglu ddydd Llun 25 Rhagfyr ar ddydd Mawrth 26 Rhagfyr 2017; cesglir rhai dydd Mawrth 26 Rhagfyr ar ddydd Mercher 27 Rhagfyr 2017; cesglir rhai dydd Mercher 27 Rhagfyr ar ddydd Iau 28 Rhagfyr 2017; cesglir rhai dydd Iau 28 Rhagfyr ar ddydd Gwener 29 Rhagfyr a chesglir rhai dydd Gwener 29 Rhagfyr ar ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr 2017.

Mae dyddiadau’r Flwyddyn Newydd yn dilyn yr un patrwm felly cesglir biniau dydd Llun 1 Ionawr ar ddydd Mawrth 2 Ionawr; cesglir rhai dydd Mawrth 2 Ionawr ar ddydd Mercher 3 Ionawr; cesglir rhai dydd Mercher ar ddydd Iau 4 Ionawr; cesglir rhai 4 Ionawr ar ddydd Gwener 5 Ionawr a chesglir rhai dydd Gwener 5 Ionawr ar ddydd Sadwrn 6 Ionawr 2018.

Os hoffech gadarnhau'r dyddiadau ar gyfer eich ardal mewngofnodwch i wefan y Cyngor ac edrych ar y ddolen i'r dudalen wastraff ac ailgylchu. http://www.newport.gov.uk/cy/Waste-Recycling/Collection-days.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.