Asesiad plentyn
O asesiad, cawn wybod a yw plentyn yn gymwys i dderbyn gwasanaethau.
Mewn argyfyngau, bydd gweithiwr cymdeithasol yn edrych ar anghenion y plentyn, a yw'r teulu'n gallu bodloni'r anghenion hynny, ac iechyd ac addysg.
Byddan nhw a chi yn penderfynu pa wasanaethau fyddai'n helpu fwyaf.
Ein nod yw cwblhau asesiadau cychwynnol o fewn 7 diwrnod gwaith ac mae'n bosibl y byddwn ni'n cwblhau Asesiad Craidd manylach o fewn 35 diwrnod gwaith.
I sicrhau bod y plant â'r angen mwyaf yn cael gwasanaethau yn gyntaf, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu ein ffordd o neilltuo gwasanaethau. Dyma'r meysydd a'r anghenion sy'n cael blaenoriaeth:
- Blaenoriaeth 1 - plentyn neu berson ifanc sydd mewn perygl uniongyrchol o niwed
- Blaenoriaeth 2 - sefyllfaoedd risg pan fydd y plentyn neu'r person ifanc yn debygol o ddioddef niwed sylweddol
- Blaenoriaeth 3 - pan fydd iechyd a datblygiad y plentyn yn cael eu hamharu os na chaiff y gwasanaethau eu darparu
- Blaenoriaeth 4 - pan fydd cyngor, gwybodaeth ac arweiniad yn hybu lles y plentyn neu'r person ifanc
Categorïau angen
- cam-drin gwirioneddol neu amheuon o gam-drin
- plant ag anableddau
- salwch, amhariad neu gamddefnyddio sylweddau gan y rhieni
- teulu sydd mewn trallod enbyd
- problemau teuluol sy'n atal rhieni rhag gofalu am eu plentyn yn gywir
- ymddygiad gwrthgymdeithasol gan y plentyn
- incwm islaw lefel cynhaliaeth y wladwriaeth
- rhieni absennol
Bydd yr amser a gymerir i ymateb i atgyfeiriad yn dibynnu ar lefel y flaenoriaeth a'r angen, er enghraifft:
- Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, bydd ymateb ar yr un diwrnod
- Os oes ar blentyn neu deulu angen cyngor ac arweiniad, gall yr amser ymateb gymryd hyd at saith diwrnod
- Os penderfynir bod angen gwasanaethau ychwanegol yn dilyn yr asesiad, bydd y rhain yn cael eu trefnu, unwaith eto yn ôl ein meini prawf cymhwysedd. Gallai'r gwasanaethau hyn gael eu darparu gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd neu gan wasanaeth arall e.e. Cychwyn Cadarn.