Taliadau uniongyrchol

Gwneir taliad uniongyrchol i bobl sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymunedol gan y cyngor ac sy’n barod ac yn abl i drefnu eu gwasanaethau eu hunain.

Gall gofalwyr di-dâl hefyd dderbyn taliadau uniongyrchol am ofal seibiant ac i’w cefnogi yn eu rôl  gofalu.

Pobl sy’n edrych ar ôl perthnasau neu gyfeillion sy’n methu ymdopi yn eu cartref heb gymorth yw gofalwyr. Nid ydynt yn derbyn tâl am eu gwaith.

Sut mae taliadau uniongyrchol yn gweithio

Defnyddir taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau i fodloni anghenion a aseswyd, fel y’u disgrifir mewn cynllun gofal.

Mae’r unigolyn sy’n derbyn taliadau uniongyrchol yn gyfrifol am reoli eu trefniadau gofal eu hunain o ddydd i ddydd, allai olygu eu bod yn dod yn gyflogwr.

Gall gwasanaethau cymorth helpu gyda:

  • Sefydlu gwasanaeth cyflogres
  • Trefnu Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr
  • Recriwtio staff
  • Bodloni dyletswyddau ac ymrwymiadau eraill cyflogwr cyfrifol

Manteision

Mae taliadau uniongyrchol yn cynnig mwy o ddewis a rheolaeth dros ddarpariaeth gofal.

Mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn cyflogi cynorthwy-ydd personol yn uniongyrchol ac felly’n gwybod yn union pwy fydd yn rhoi’r gofal.

Gall yr unigolyn sy’n cyflogi’r cynorthwy-ydd ddewis beth y maen nhw’n ei wneud, a phryd, er enghraifft mynd i nofio neu siopa.

Taliadau uniongyrchol a budd-daliadau

Nid yw taliadau uniongyrchol yn effeithio ar hawl i fudd-daliadau neu atebolrwydd treth.

Nid incwm yw taliadau uniongyrchol ond arian parod yn ei le i brynu gwasanaethau.

Mae pobl sy’n cael eu cyflogi gan y defnyddiwr gwasanaeth yn atebol i dalu treth ac Yswiriant Gwladol, yn union fel pe bai nhw’n gweithio i unrhyw gyflogwr arall. Gall enillion effeithio ar fudd-daliadau.

Cysylltu 

Y cam cyntaf yw cael asesiad o’r anghenion gofal. Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd am ragor o wybodaeth.  

TRA96023 14/01/2019