Celtic Springs, Cleppa 4 and Cleppa Park

Exterior of Office Building at Celtic Springs

 

Datblygiad eithriadol ar Gyffordd 28 traffordd yr M4, mae Celtic Springs yn barc busnes 44 erw mewn lleoliad wedi’i dirlunio.

Ymhlith y meddianwyr presennol mae Gwasanaethau a Rennir y Weinyddiaeth Cyfiawnder, Wales and West Utilities, Nucleus Healthcare, meithrinfa ddydd a weithredir gan St. Johns on the Hill, Express by Holiday Inn 128 ystafell wely a bwyty Vintage Inn. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer gwesty 5 seren gyda chyfleusterau cynadledda.

Mae CS3000 yn ddatblygiad hapfasnachol, safon uchel 35,000 troedfedd sgwâr sydd ar gael yn Celtic Springs.

Mae 13 erw ar gael mewn tir heb ei ddatblygu.

Mae Cleppa 4 yn ddatblygiad parc 18 erw gyda gwasanaethau llawn, ac mae’r meddianwyr presennol yn cynnwys Cassidian (cwmni EADS) ac Acorn Recruitment.

Mae Parc Cleppa yn cynnwys 120,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd mewn pum uned ar wahân, gyda meddianwyr yn cynnwys Virgin Media a Liberata UK.

Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i fusnesau sy'n lleoli yn yr ardaloedd hyn trwy Lywodraeth Cymru.