Dylai Cartref y Siartwyr ddod yn Ddinas Democratiaeth
Wedi ei bostio ar Tuesday 6th December 2016
Yn ôl adroddiad gan y sefydliad annibynnol ResPublica, dylai Casnewydd a oedd unwaith yn gartref i fudiad y Siartwyr ddod yn Ddinas Democratiaeth a chynnal gŵyl ddemocratiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rwyf o'r farn y gall gwneud Casnewydd yn Ddinas Democratiaeth wneud i ni sefyll allan, ac mae'r ymateb i'r syniad wedi bod yn galonogol iawn.
"Roedd y gynulleidfa yn Uwchgynhadledd y Ddinas yn falch iawn o weld adroddiad ac argymhellion ResPublica, ac roedd ganddynt ddiddordeb mawr ynddynt.
"Rhaid i hyn ysgogi mwy na dull marchnata neu slogan. Wrth fwrw ymlaen, byddwn yn datblygu ymhellach y syniadau hynny gydag arweinwyr busnes, grwpiau cymunedol, ysgolion a phreswylwyr ac yn creu llwyfan pwysig fydd â buddion parhaus i'r ddinas."
Ymhlith argymhellion amlinellol ResPublica mae:
- Cytuno ar strategaeth frandio ar gyfer y Ddinas Democratiaeth gyda rhanddeiliaid a phartneriaid.
- Mesurau i gefnogi cydweithrediadau a chydberchnogaeth ar gyfer busnesau lleol sefydledig a newydd
- Ymchwilio i ymgorffori "Stori Casnewydd" i'r cwricwlwm ysgolion
- Defnyddio'r Panel Trigolion i dreialu ystod o ddulliau democratiaeth ddigidol newydd a chydweithredol.
- Cyfrannu at drafodaethau ynglŷn â diwygio etholiadol
- Creu Gŵyl Ddemocratiaeth, gan gyfeirio at gyd-destunau hanesyddol a modern, gan greu dadleuon ac annog defnyddio dulliau democrataidd newydd mewn ffyrdd gwahanol.
I ddarllen yr adroddiad a'r argymhellion yn llawn ewch i http://www.respublica.org.uk/our-work/publications/newport-city-democracy