Galw am gyflogwyr ar gyfer ffair swyddi flynyddol Casnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 19th July 2019
Mae Cyngor Dinas Casnewydd a'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnal ffair swyddi flynyddol y ddinas ddydd Iau 12 Medi yng Nghanolfan Casnewydd.
Mae nifer o gwmnïau eisoes wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad poblogaidd, ond mae dal amser ar ôl i gwmnïau a darparwyr hyfforddiant gadw lle.
Yn flaenorol, mae'r ffeiri wedi denu miloedd o bobl sy'n chwilio am waith neu gyfleoedd newydd i roi hwb i'w sgiliau a chymwysterau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau ar Gyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Mae'r ffair swyddi yn ddyddiad pwysig yng nghalendr digwyddiadau'r ddinas, gan ei fod yn dwyn ynghyd ystod eang o gyflogwyr a cheiswyr swyddi brwd sydd â llawer i gynnig.
"Byddwn yn annog cwmnïau yng Nghasnewydd sy'n chwilio am gyflogeion newydd i gysylltu â'r tîm i sicrhau eu bod nhw'n rhan o'r digwyddiad blynyddol hynod lwyddiannus hwn."
Cadwch lygad am ragor o wybodaeth ar y ffair swyddi dros yr wythnosau nesaf.
Gall cwmnïau neu ddarparwyr hyfforddiant sydd am gymryd rhan gysylltu â [email protected]