Newyddion

Ffair swyddi boblogaidd y ddinas yn ei hôl y mis nesaf

Wedi ei bostio ar Friday 16th August 2019
jobs fair 2018

Bydd ffair swyddi flynyddol Casnewydd yn digwydd yng Nghanolfan Casnewydd ddydd Mawrth 12 Medi o 10am tan 1pm.

Unwaith eto, bydd cannoedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddi ar gynnig yn y digwyddiad a drefnir gan Cyngor Dinas Casnewydd a'r Ganolfan Byd Gwaith.

Dyma'r cyflogwyr a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan eleni: Wilko; Adecco (yn recriwtio ar ran Amazon); Celtic Manor; BIPAB; CThEM; Newport Norse; Tesco ;Q Care; Coleg Gwent; MOD; Vibe Recruitment; Pure Gym; Trafnidiaeth Casnewydd; Avon; Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru;

GAVO; Utility Warehouse; Gwesty'r Marriot.

Yn 2018, aeth dros 2700 o bobl i'r ffair swyddi ac yn y blynyddoedd blaenorol, bu'r adborth gan y rhai a oedd yn chwilio am swyddi, y busnesau a'r darparwyr hyfforddiant yn dra chadarnhaol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau ar Gyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Mae'r ffair swyddi yn llawn cyfleoedd gwaith a hyfforddiant, waeth p'un ai'n chwilio am eu swydd gyntaf, newid gwaith neu ennill sgiliau newydd mae pobl.   

 "Mae'n ddigwyddiad gwych 'na ddylid ei fethu', sydd bob tro'n denu cyflogwyr lleol ag enw da yn ogystal â phobl frwdfrydig sy'n chwilio am waith."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.