Y Teigrod i lanio yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 8th September 2023
Bydd y Teigrod, un o dimau arddangos parasiwt blaenllaw'r Fyddin Brydeinig yn glanio yng Nghasnewydd yn ddiweddarach y mis hwn*.
Bydd y tîm yn glanio yn Rodney Parade ddydd Sadwrn 30 Medi, ychydig cyn cic gyntaf gêm Y Dreigiau v Y Gweilch.
Mae'r Teigrod hefyd yn cynnig cymorth i'r Fyddin gyda’r gwaith recriwtio a byddant wrth law i rannu mwy o wybodaeth am y Fyddin a'r gyrfaoedd sydd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydym yn gyffrous iawn bod y Teigrod wedi penderfynu dychwelyd i Gasnewydd. Roedden nhw i fod i ddod i Gasnewydd fel rhan o ddathliadau diweddar Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru, ond yn anffodus roedd y tywydd ddim yn ffafriol.
"Mae'r tîm bob amser yn rhoi arddangosfa drawiadol, ac mae'n argoeli i fod yn sioe a hanner wrth iddyn nhw nesáu at Rodney Parade. Mae hefyd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am yrfa gyda'r Fyddin a chymryd rhan yn y gweithgareddau ar y dydd - hawliwch eich tocynnau'n gynnar!"
I’w gweld nhw’n glanio, bydd angen tocynnau ar gyfer y gêm arnoch - ewch i www.eticketing.co.uk/dragons am fwy o wybodaeth.
*Mae'r holl neidiau yn amodol ar y tywydd ar y dydd. Manylion yn gywir ar adeg cyhoeddi.