Y Red Arrows a'r Gwragedd Milwrol i ymddangos yn nathliadau'r ddinas
Wedi ei bostio ar Thursday 4th May 2023
Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru yng Nghasnewydd, ddydd Sadwrn 24, Mehefin, yn siŵr o fod yn ddigwyddiad gwych, ac mae rhagor o gyfranwyr cyffrous wedi’u datgelu.
Disgwylir iddo gynnwys y Red Arrows, parasiwtwyr y Fyddin a'r RAF a Chôr Gwragedd Milwrol Caerdydd.
Bydd y diwrnod arbennig iawn yn dechrau gyda gorymdaith filwrol drwy ganol y ddinas, gydag aelodau sy’n gwasanaethu gyda’r lluoedd arfog ar hyn o bryd a chyn-filwyr yn cymryd rhan.
Bydd cerbydau a stondinau gwasanaethau y lluoedd arfog ar hyd glan yr afon tra bydd elusennau a mudiadau gwirfoddol sy'n cefnogi'r lluoedd dan do, yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.
Bydd Parth Gweithgareddau'r Fyddin y tu mewn i Rodney Parade yn y prynhawn, a bydd cyngerdd am ddim, gyda thocynnau, yn cael ei gynnal gyda'r nos fydd yn cynnwys côr Merched Milwrol Caerdydd.
Bydd yn dod i ben tua 6.30pm gyda'r Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn chwarae Agorawd yr 1812 yn sŵn y Catrawd Canonau Brenhinol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rydym yn llunio rhaglen o ddigwyddiadau fydd yn arddangos ein lluoedd arfog ac yn talu teyrnged iddyn nhw.
"Rydym yn gobeithio y bydd trigolion Casnewydd a phobl o bob rhan o Gymru yn dod i ddangos eu gwerthfawrogiad o'r bobl sy’n gwasanaethau nawr, neu wedi gwneud hynny’n y gorffennol, ac yn anrhydeddu eu cyfraniad i'n gwlad.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Spencer, hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor: "Bydd hwn yn ddiwrnod bythgofiadwy i'r ddinas ac rwy'n siŵr y bydd trigolion ac ymwelwyr eraill yn rhoi croeso cynnes i gynrychiolwyr y lluoedd arfog a chyn-filwyr.
"Yn ogystal â dathlu ein lluoedd arfog, bydd cyfle hefyd i feddwl am y rhai a wnaeth yr aberth eithaf gan gynnwys seremoni yn nodi colli HMS Turbulent a'i chadlywydd dewr o Gasnewydd, John Wallace Linton, ym 1943."
Bydd uchafbwyntiau'r diwrnod yn cynnwys:
- 10am - Gorymdaith filwrol o'r Stryd Fawr i Sgwâr John Frost
- 11am – Red Arrows yn hedfan heibio (os bydd y tywydd yn caniatáu)
- Tua 11.30am – bydd timau arddangos Parasiwtwyr Teigrod y Fyddin a’r RA Falcons (os bydd y tywydd yn caniatáu)
- 4pm – bydd y cyngerdd yn dechrau ac yn cynnwys perfformiadau gan y Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol, Pumawd Band Cymru’r Lleng Brydeinig Frenhinol, Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Band Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys.
Gellir archebu tocynnau drwy swyddfa docynnau Rodney Parade a'u casglu ar y diwrnod. Ffoniwch 01633 670690 neu e-bostiwch [email protected]. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.newport.gov.uk/lluoedd arfog