Newyddion

Apêl Cartrefi i Wcráin

Wedi ei bostio ar Thursday 4th May 2023

Wrth i'r rhyfel yn Wcráin barhau, mae Casnewydd yn chwilio am fwy o deuluoedd sy'n fodlon cynnig cartref diogel i'r rhai sydd wedi ffoi o'r gwrthdaro. 

Bydd taliadau diolch o £500 y mis yn cael eu gwneud i letywyr am hyd at 12 mis yn ogystal â chynnig mynediad at gefnogaeth a hyfforddiant eraill am ddim. 

Mae teuluoedd ac unigolion o Wcráin wedi cael croeso cynnes gan eu lletywyr lleol ac mae'r ddwy ochr wedi siarad yn bositif am y profiad. 

Dywedodd y gwestai Liubov Popadyents,"Rwy'n hapus iawn gyda fy lletywr; mae gennym ni berthynas hyfryd iawn. Dwi'n gwybod eu bod nhw wastad yna i gefnogi a helpu. Hyd yn oed petawn i'n symud i rywle arall, byddan nhw'n parhau i fod yn deulu i mi yma." 

Mae hi wedi bod yn aros gyda'r teulu Maslin a ddywedodd eu bod wedi bod yn lwcus ac yn freintiedig iawn eu bod wedi cyfarfod a chynnal Liubov. 

"Mae hi wedi dod yn rhan o'n bywyd ni a'n teulu ni, ni'n dwlu arni hi, mae hi'n gweithio'n galed iawn, mae hi'n mynd i'r gwaith, mae hi'n mynd i'r coleg, mae hi'n fenyw anhygoel." 

Dywedodd Nataliya Prystay hefyd fod ganddi berthynas dda gyda'i lletwyr. "Rwy'n hapus ac yn fodlon iawn gyda phawb. Mae fy lletywyr yn fy helpu gyda'r cyfan sydd ei angen arna i, maen nhw'n gwrtais iawn, addysgedig, hyfryd, caredig " 

Dywedodd gwestai arall, Liubov Lavrynenko, am ei lletywr: "Maen nhw'n bobl wirioneddol wych gyda chalonnau enfawr, pan fydd angen help arna i, rydw i’n gwybod y galla i ofyn iddyn nhw. Rwy'n hapus iawn fy mod i'n cael fy lletya ganddyn nhw, fe wnaethon nhw fy helpu llawer yn enwedig pan ddes i gyntaf ac maen nhw'n dal i fy nghefnogi." 

Gyda'r argyfwng yn parhau, mae angen lletywyr ar gyfer unigolion a theuluoedd o Wcráin y mae disgwyl i'w lleoliadau presennol ddod i ben yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Gall unrhyw un wneud cynnig o lety cyn belled â'i fod am o leiaf chwe mis; bod gennych ganiatâd i aros yn y DU am o leiaf chwe mis os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig; does gennych chi ddim cofnod troseddol. 

Gwneir archwiliadau i'r rhai sy'n cynnig mynd â rhywun yn eu cartref ac mae'r llety ei hun yn briodol ac yn bodloni'r safonau angenrheidiol. 

Bydd y rhan fwyaf o Wcreiniaid bellach wedi treulio peth amser yng Nghymru ac mae nifer ohonyn nhw naill ai mewn addysg neu gyflogaeth. Mae'r rhan fwyaf wedi ymgartrefu ac yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr i'n cymunedau. 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros les cymunedol: "Yn anffodus, mae'r rhyfel yn Wcráin yn parhau ac yn cael effaith ddinistriol ar fywydau cynifer o bobl. Mae pobl yn cael eu gorfodi allan o'u cartref a'u gwlad, nid drwy ddewis a heb unrhyw fai arnyn nhw. 

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi croesawu teuluoedd i'r ddinas ac maent wedi ymgartrefu'n dda gyda lletywyr ac mewn llety dros dro. Mae plant yn mynd i'r ysgol ac yn gwneud cynnydd gwych. 

"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi agor eu cartrefi ond mae rhai o'r lleoliadau hynny bellach yn dod i ben. Mae angen mwy o drigolion caredig i ddod ymlaen a darparu lle diogel i fyw i bobl sydd wedi bod trwy gymaint." 

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i Wcreiniaid i'w helpu gyda'r bennod newydd hon yn eu bywydau. 

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am fod yn lletywr cysylltwch â [email protected] 

Mae Cyfiawnder Tai Cymru hefyd yn cynnal sesiynau ar-lein gan gynnig mwy o wybodaeth i'r rhai sy'n ystyried cynnig cartref ac yn darparu llinell gymorth i lletywyr. Mae hyfforddiant pellach ar gael i'r rhai sy'n cofrestru. I ddysgu mwy ewch i https://housingjustice.org.uk/cymru/host-support-homes-for-ukraine 

I wneud cais i fod yn lletywr ewch i www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.