Newyddion

Cyrtiau tennis yn ailagor ym Mharc Tredegar ar ôl cael eu hadnewyddu

Wedi ei bostio ar Tuesday 11th July 2023

Gall y ffans tennis yn eich plith sy’n chwilio am rywle i chwarae gêm neu ddwy ailddechrau chwarae unwaith eto yng nghyrtiau tennis Parc Tredegar.

Mae'r cyrtiau tennis wedi ailagor ar ôl cael eu hadnewyddu er mwyn sicrhau eu bod yn para i genedlaethau'r dyfodol, ac mae’r gwaith yn cynnwys:

  • Adnewyddiad llawn o'r wyneb, sydd hefyd wedi'i ailbeintio
  • Rhwydi newydd, a ffensys perimedr
  • Gosod goleuadau newydd a system mynediad giât

Mae'r gwaith adnewyddu wedi cael ei gyflawni a'i ariannu mewn partneriaeth gan Gyngor Dinas Casnewydd, Chwaraeon Cymru, Tennis Cymru, a Llywodraeth y DU a Sefydliad Tennis y LTA, fel rhan o Brosiect Tennis Parciau’r LTA - rhaglen o fuddsoddiad cenedlaethol i adnewyddu cyrtiau tennis cyhoeddus. Mae cyfanswm o £253,800 wedi cael ei fuddsoddi i  helpu i sicrhau bod cyfleusterau o safon ar gael i'r gymuned leol. 

Nod y buddsoddiad yw adnewyddu miloedd o gyrtiau tennis mewn parciau er budd cymunedau lleol ledled y DU, gan ei gwneud hi'n haws dod o hyd i gwrt, archebu lle a chwarae arno.

Bydd yr holl gyrtiau ar gael i'w harchebu drwy Wefan yr LTA fel rhan o system archebu newydd. Mae'r system archebu newydd yn golygu ei bod bellach yn haws mynd ar gwrt drwy archebu ymlaen llaw i warantu argaeledd.

Gall chwaraewyr hefyd archebu cwrt ar wefannau Casnewydd Fyw a Tennis Cymru. Gellir archebu cyrtiau ym mharciau Beechwood a Belle Vue drwy'r system hon hefyd. Gellir archebu cyrtiau ym Mharc Tredegar o £4.50 yr awr - bydd ffioedd bychain yn sicrhau bod y cyrtiau yn cael eu cynnal i’w safon uchel newydd am flynyddoedd i ddod.

Bydd opsiynau hefyd i brynu tocynnau blynyddol i'r cyrtiau. Bydd modd parhau i ddefnyddio’r cyrtiau ym mharciau Beechwood a Belle Vue am ddim.

Yn ogystal â sesiynau Tennis am Ddim wythnosol, gydag offer yn cael ei ddarparu, bydd cynghreiriau tennis lleol yn cael eu cynnal ar y cyrtiau newydd,  gan roi cyfle i bobl gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol cyfeillgar a chymdeithasol.

Bydd yr LTA, y Cyngor, Chwaraeon Cymru a Tennis Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Chasnewydd Fyw, darparwr hyfforddi'r Cyngor, i gynnig sesiynau tennis am ddim ar y cyrtiau yn y parciau, gydag offer yn cael ei ddarparu, gan sicrhau cyfleoedd rheolaidd i unrhyw un godi raced a chwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth:

"Rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu ailagor y cyrtiau ym Mharc Tredegar ar ôl cwblhau'r gwaith adnewyddu.

"Rydyn ni'n gwybod bod cael mynediad at gyfleusterau chwaraeon o ansawdd da yn bwysig i'n trigolion.  Dyna pam rydyn ni'n ddiolchgar i'n partneriaid ariannu a chyflawni am ddod at ein gilydd i'n helpu ni i gyflawni'r gwelliannau hyn.

"Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl allu chwarae tennis ar eu cwrt lleol, ac yn ysbrydoli pobl gobeithio i godi raced a chwarae."

Meddai Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru:

Mae sicrhau bod chwaraeon yn hygyrch yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fod yn egnïol.

"Drwy ein Harolwg o Chwaraeon Ysgol, dywedodd plant a phobl ifanc yng Nghasnewydd wrthym fod galw gwirioneddol am fwy o gyfleoedd i chwarae tennis, felly roeddem yn falch iawn o ymateb i'r uchelgais hwnnw gyda chyllid i helpu i wneud i hynny ddigwydd."

Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yr LTA:

"Ar ôl misoedd o waith caled, rydym yn falch iawn o weld cyrtiau tennis mewn parciau ledled Casnewydd yn ôl ar agor yn swyddogol i'r cyhoedd, ac mewn gwell siâp nag erioed.

"Mae cyrtiau tennis cyhoeddus yn gyfleusterau mor hanfodol ar gyfer bod yn egnïol ac rydym am i gynifer o bobl â phosibl, o bob oed a gallu, godi raced a mwynhau chwarae tennis. Diolch i'r buddsoddiad hwn bydd y gamp yn cael ei hagor i fwy o chwaraewyr, am flynyddoedd i ddod." 

Dywedodd Stuart Andrew AS, Gweinidog Chwaraeon yn Llywodraeth y DU:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfle cyfartal i bawb gymryd rhan mewn chwaraeon, sydd mor bwysig i iechyd corfforol a meddyliol y genedl.

"Mae'r llywodraeth a'r LTA yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu miloedd o gyrtiau wedi'u hadnewyddu ledled Prydain Fawr, gyda chefnogaeth £30 miliwn o fuddsoddiad gan gynnwys yng Nghasnewydd.
 
"Bydd y cyfleusterau tennis gwell hyn ym Mharc Tredegar yn rhoi cyfleoedd llawn hwyl i'r gymuned leol i fod yn egnïol, gan greu o bosibl yr Andy Murray neu’r Emma Raducanu nesaf."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.