Newyddion

Clod i Ysgol Gynradd Pentrepoeth

Wedi ei bostio ar Wednesday 19th July 2023

'Wow, am ysgol!' 

Mae Ysgol Gynradd Pentrepoeth wedi cael canmoliaeth gan arolygwyr ysgolion swyddogol yn ogystal ag aseswyr marciau ansawdd cenedlaethol. 

Mewn adroddiad eithriadol gan Estyn, dywedodd arolygwyr "mae hon yn ysgol lle mae disgyblion yn ffynnu ac yn mwynhau ystod eang o brofiadau dysgu diddorol a chyffrous". 

Mae'n dilyn arfarniad hynod gadarnhaol gan aseswyr Ysgolion Iach a ymwelodd â'r ysgol cyn dyfarnu'r Marc Ansawdd Cenedlaethol iddi. 

Roedd nifer o uchafbwyntiau adroddiad Estyn yn cynnwys: 

  • Mae cydberthnasau gwaith cryf a pharch dwfn rhwng disgyblion a staff yn creu ethos arbennig o gefnogol sy'n meithrin ymddygiad eithriadol o dda, ystyriaeth i eraill a diwylliant o ddisgwyliadau uchel.
  • Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu agweddau hynod gadarnhaol tuag at ddysgu ac mae hyn yn eu helpu i wneud cynnydd da wrth iddynt symud drwy'r ysgol. 
  • Mae athrawon brwdfrydig, medrus yn sicrhau bod disgyblion yn elwa o wersi diddorol, yn dysgu i herio eu hunain, ac yn cyflawni safonau uchel ym mhob maes o'r cwricwlwm bron a bod. 
  • Mae tîm arwain, staff a llywodraethwyr yr ysgol wedi sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol, yn seiliedig ar sicrhau lefelau uchel o les, cynnydd da a diwylliant cryf o ddiogelu. 
  • Mae cydweithredu llwyddiannus, hanes o wella’r ysgol yn effeithiol a disgwyliadau uchel yn galluogi pawb yn y gymuned ysgol i gyfrannu'n bwrpasol at gyflawni'r weledigaeth honno. 

Mae Estyn hefyd yn gwahodd yr ysgol i baratoi dwy astudiaeth achos arfer da mewn perthynas â defnyddio'r amgylchedd awyr agored i gymhwyso sgiliau rhifedd, llythrennedd a digidol a ddysgwyd yn y dosbarth a sut aeth ati i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth disgyblion a rhieni o ddiogelwch personol. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Mae hwn yn adroddiad eithriadol.   Mae pawb sy'n ymwneud â'r ysgol yn haeddu ein llongyfarchiadau a dylen nhw deimlo'n falch iawn eu bod yn cynnig amgylchedd dysgu mor wych i blant." 

Dywedodd y Pennaeth Dean Taylor: “Hoffwn ddiolch i'n tîm rhagorol o athrawon a staff cymorth; y gymuned rhieni a gofalwyr a'r corff llywodraethu. 

“Dydw i ddim yn synnu bod ein disgyblion anhygoel wedi creu argraff ar yr arolygwyr a'r aseswyr. Mae eu hagweddau tuag at ddysgu, eu hymddygiad a'r cynnydd a wnânt yn rhagorol. Maen nhw’n gwrtais ac yn dangos parch a charedigrwydd bob dydd. 

“Byddwn yn parhau i fod yn ysgol 'uchelgeisiol' - i geisio gwella i sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle i gyrraedd ei botensial cyn symud ymlaen i gamau nesaf ei addysg.” 

Yn ei adroddiad, canfu Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru fod Ysgol Gynradd Pentrepoeth wedi bodloni'r holl feini prawf i gyrraedd ei nod ansawdd. 

“Wow, am ysgol! Does dim amheuaeth bod Ysgol Gynradd Pentrepoeth yn ysgol iach ac yn llawn haeddu ei Gwobr Ansawdd Genedlaethol," meddai.  

"Yn ystod yr ymweliad cyflawniad daeth yn amlwg iawn bod cysyniad yr ysgol iach a diogelu a hyrwyddo lles corfforol a meddyliol pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol wedi'i wreiddio'n llawn ac yn llwyr ym mywyd a diwylliant yr ysgol." 

Dywedodd y Cynghorydd Deborah Davies, Cyngor Dinas Casnewydd:  "Hoffwn adleisio popeth y mae Dean wedi'i ddweud ond hoffwn hefyd ddiolch iddo ef am ei arweinyddiaeth ysbrydoledig.  Mae'r rhain yn ddau adroddiad gwych, haeddiannol.  Da iawn i'r staff, disgyblion, llywodraethwyr a theuluoedd." 

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, John H Griffiths: "Rydw i mor falch o fod yn llywodraethwr i’r ysgol anhygoel hon ac wrth fy modd gyda'r gydnabyddiaeth swyddogol o'r gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad sy'n ei gwneud yn lle mor wych i'n plant ddysgu a ffynnu."

 

 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.