Newyddion

Y Cyngor i wneud gwaith ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Wedi ei bostio ar Wednesday 26th July 2023

Cyn bo hir bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn dechrau gweithio ar gyfres o welliannau i Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Bydd y gwelliannau'n golygu clirio silt a llystyfiant yn y gamlas o safle’r Pedwar Loc ar Ddeg hyd at ffin y ddinas â sir Caerffili. Bydd y darn hwn o’r gamlas hefyd yn cael ei ail-leinio.

Bydd clirio’r silt a'r ail-leinio yn gwella llif y dŵr ynghyd â’i gadw, yn ogystal â gwella'r amgylchedd dŵr at ddibenion bioamrywiaeth.

Bydd safle’r Pedwar Loc ar Ddeg hefyd yn elwa o bont newydd dros y pwll, a gatiau lloc newydd uwchben y pwll yn lle'r rhai presennol.

Bydd y bont, a fydd yn disodli'r un bresennol, yn cynnig gwell mynediad i ganolfan ymwelwyr y Pedwar Loc ar Ddeg gyda ramp mynediad wedi'i addasu. Bydd gwaith dichonoldeb hefyd yn dechrau ar ailgynllunio posib ar y ganolfan ymwelwyr. 

Dwedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth:  "Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi y bydd y gwaith hwn ar y gamlas yn dechrau'n fuan.

"Mae adeiladu gwydnwch i ecosystem ein dinas yn un o'r blaenoriaethau yn ein cynllun newid hinsawdd sefydliadol, a bydd y gwaith o godi’r silt ac ail-leinio a gaiff ei wneud yn helpu i adeiladu'r gwydnwch hwnnw yn y gamlas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae'r gamlas yn safle pwysig o fewn y gymuned leol, felly rwyf hefyd yn falch y bydd y gwelliannau hyn yn ehangu mynediad i'r ganolfan ymwelwyr."

Mae'r gwaith wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU o dan flaenoriaeth buddsoddi Cymunedau a Lle.

Dylai preswylwyr ddisgwyl lefelau amrywiol o darfu dros y 18 mis nesaf tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud.  Bydd hyn yn cynnwys cau llwybr y gamlas yn llawn neu'n rhannol, y bydd gwyriadau yn cael eu rhoi ar waith ar eu cyfer, a gall gyfyngu ar barcio yn y maes parcio.

Bydd yr union amserlen ar gyfer y gwaith hwn yn cael eu cyfathrebu trwy sianelau'r cyngor ac ar y safle yn y Pedwar Loc ar Ddeg unwaith y byddant wedi'u cadarnhau.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.