Newyddion

Llongyfarchiadau am diwrnod y canlyniadau

Wedi ei bostio ar Thursday 24th August 2023

Heddiw mae disgyblion a myfyrwyr ledled Casnewydd wedi bod yn darganfod a yw eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed wrth iddynt gasglu eu canlyniadau TGAU ac arholiadau eraill. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: “Llongyfarchiadau i bawb sy’n dathlu eu llwyddiant. Hoffwn ddymuno’n dda i chi ym mhennod nesaf eich bywyd.” 

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deb Davies: "Da iawn i bawb sydd wedi ennill cymwysterau, boed yn academaidd neu'n dechnegol. 

"Rwy'n gobeithio y gallwch chi, a'ch teuluoedd a'ch ffrindiau, ddathlu’n haeddiannol iawn cyn cychwyn ar gam nesaf eich bywydau boed hynny mewn addysg bellach, hyfforddiant neu waith. 

"Mae cymorth ar gael i'r rhai nad ydynt efallai wedi cael y canlyniadau yr oeddent eu heisiau neu eu hangen a gallwch gael cyngor gan eich ysgol, coleg neu Gyrfa Cymru cyn penderfynu ar eich camau nesaf. 

“Pob lwc i chi gyd yn y dyfodol. 

"Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'n haddysgwyr, llywodraethwyr a theuluoedd am y gefnogaeth y maent wedi'i rhoi i'r bobl ifanc hyn."

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.