Newyddion

Cydnabod gwasanaethau Casnewydd yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2023.

Wedi ei bostio ar Thursday 27th April 2023

Roedd dau o wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd ar y rhestr fer yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru eleni. 

Mae'r Gwobrau'n cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar Cymru. 

Mae'r gwobrau'n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol. 

Gwnaeth gwasanaeth seibiant byr Oaklands y cyngor ennill ar gyfer gwobr adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd.  

Mae Oaklands yn darparu seibiannau tymor byr i blant ag anghenion ychwanegol. Mae'r gwasanaeth yn helpu teuluoedd drwy ddarparu cartref oddi cartref diogel, gofalgar, meithringar a theuluol ei naws. 

Bydd y gwasanaeth yn holi teuluoedd am yr hyn sy'n bwysig i'r plant, fel y gall eu cefnogi'n gadarnhaol yn ystod eu harhosiad a lleddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw. 

Gwnaeth ein gwasanaeth cysylltu cymunedol canmoliaeth uchel yn y categori cefnogi gofalwyr di-dâl. 

Mae'r gwasanaeth yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd. . Mae tîm y prosiect yn rhedeg caffi i ofalwyr, a rhwydwaith gofalwyr sy'n rhannu gwybodaeth reolaidd gyda dros 230 o aelodau. 

Dywedodd y Cynghorydd Steve Marshall, yr Aelod Cabinet dros wasanaethau cymdeithasol plant: "Rwy'n falch iawn o weld y gwaith da sy’n cael ei wneud gan ein tîm yn Oaklands yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. 

"Mae'r gwasanaeth yn achubiaeth i'r teuluoedd sy'n ei ddefnyddio, ac mae'n wych gweld hynny'n cael ei adlewyrchu gyda’r wobr yma." 

Dywedodd y Cynghorydd Jason Hughes, yr Aelod Cabinet Cyngor dros wasanaethau cymdeithasol: "Mae gofalwyr di-dâl yn aberthu cymaint i helpu i ofalu am ffrindiau ac anwyliaid, felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt. 

"Mae ein cysylltwyr cymunedol yn gwneud gwaith gwych o ran darparu hyn, ac mae'r enwebiad yma’n dyst i'w hymdrechion." 

I weld rhestr lawn o'r enillwyr a rhagor o wybodaeth am y Gwobrau, ewch i www.gofalcymdeithasol.cymru/y-gwobrau/gwobrau-2023

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.