Gwaith gwella i'w wneud ar bont droed Casnewydd
Wedi ei bostio ar Thursday 27th April 2023
Bydd gwaith i wella i bont droed Casnewydd yn dechrau yfory (dydd Gwener 28 Ebrill).
Bydd byrddau dec yn cael eu gosod ar y bont gyfan. Nod y byrddau hyn yw lleihau lefelau'r sŵn a wneir gan bobl sy'n croesi'r bont, yn enwedig y rhai ar feiciau a sgwteri.
Cafodd rhai o'r byrddau dec newydd eu gosod ar un pen o’r bont ym mis Mawrth fel prawf, ac roedd y canlyniadau'n dangos eu bod yn effeithiol wrth leihau lefelau sŵn.
Bydd y gwaith yn dechrau heddiw ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau o fewn chwe wythnos.
Er y bydd rhywfaint o darfu, bydd y bont yn parhau ar agor at ddefnydd y cyhoedd drwy gydol y gwaith. Mae'n bosib y bydd y gwaith yn cael ei atal dros dro yn ystod y cyfnod chwe wythnos er mwyn ailagor y bont yn llawn yn ystod digwyddiadau mawr yng nghanol y ddinas.