Safle profi Covid-19 ychwanegol ym Metws
Wedi ei bostio ar Thursday 18th February 2021
Mae safle profi lleol (SPLl) yn agor yng Nghasnewydd ddydd Gwener 19 Chwefror yn rhan o ymgyrch y llywodraeth i wella mynediad trigolion at brofion Covid-19.
Cynigiodd Cyngor Dinas Casnewydd y safle ym maes parcio Clwb Cymdeithasol Betws, Lambourne Way, i wneud mynediad i brofion yn haws i bobl sy'n byw yn yr ardal honno.
O ddydd Sul 21 Chwefror, bydd yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm. Mae'r safle profi'n gwasanaethu'r gymuned leol felly gall y rheini sydd angen prawf gerdded i'r safle yn lle gyrru yno.
Os oes unrhyw symptomau Coronafeirws (Covid-19) gennych - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl, trefnwch brawf cyn gynted â phosibl.
I archebu, ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test
Os oes gennych symptomau, dylech chi ac unrhyw aelodau o'r cartref ynysu ar unwaith. Dylai eich cartref cyfan barhau i ynysu nes y daw canlyniad y prawf i law. Os yw'r prawf yn bositif, dylai holl aelodau'r cartref a chysylltiadau agos barhau i ynysu am 10 diwrnod yn unol â'r canllawiau presennol.
Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i nodi safleoedd profi lleol yn y ddinas.