Agoriad penwythnos estynedig yn y ganolfan ailgylchu gwastraff cartref
Wedi ei bostio ar Wednesday 17th June 2020
O'r dydd Sadwrn hwn, mae ein canolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn agor yn hirach ar benwythnosau.
Gall preswylwyr bellach archebu slot yn y ganolfan ar benwythnosau rhwng 8am a 6pm, yn lle rhwng 9.30am a 4pm fel yr oedd gynt.
Ers i'r ganolfan ailagor ychydig wythnosau yn ôl, mae preswylwyr wedi helpu i sicrhau bod y prosesau newydd sydd ar waith ar gyfer trefnu slotiau ac ymweld wedi gweithio'n dda.
Mae hyn, ynghyd â chynnydd yn nifer y staff, wedi galluogi'r Cyngor i ymestyn yr amseroedd agor ar benwythnosau, er mwyn darparu mwy o hyblygrwydd i breswylwyr sydd am ymweld â'r safle.
I drefnu slot ymweld, ewch i’r tudalen archebu.