Cyngor Dinas Casnewydd yn penodi prif weithredwr
Wedi ei bostio ar Wednesday 29th July 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi penodi Beverly Owen yn Brif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig.
Mae gan Beverly 28 mlynedd o brofiad ym myd Llywodraeth Leol. Ymunodd yn wreiddiol â Chyngor Dinas Casnewydd yn 2015 fel Pennaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai, gan ddod yn Gyfarwyddwr Strategol Lle yn 2016.
Yn ystod pandemig Covid-19 bu hefyd yn dal swydd fel prif weithredwr dros dro.
Dwedodd y Cynghorydd Jane Mudd - Arweinydd y Cyngor, "Mae Beverly eisoes wedi profi ei hun ar draws portffolios eang a heriol. Mae hi'n arwain bob amser yn hunanfeddiannol, gydag amynedd a rhagwelediad. Mae Beverly hefyd yn un sy’n datblygu ac yn cynnal perthynas hirhoedlog a phwysig gyda phartneriaid, busnesau a sefydliadau eraill, i gyd er budd Casnewydd. Mae'n benderfynol o wneud y gorau dros y cyngor ac, yn bwysicach, ar gyfer Dinas Casnewydd.
"Mae hi hefyd wedi profi ei hun o ran ei gallu i addasu yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus diweddar. Mae'r amseroedd hyn wedi bod yn gyfnod digynsail i bawb ac yn her fawr ar draws y sector cyhoeddus. Mae Beverly wedi tywys yr awdurdod yn effeithiol, gan ganolbwyntio bob amser ar lesiant y ddinas a'n trigolion.
"Rwy'n hyderus y bydd yn parhau â'i gwaith ardderchog ac yn helpu Casnewydd i dyfu ymhellach ac yn gyflymach."
Yn ei rôl bresennol, mae Beverly yn arwain dau o'r meysydd gwasanaeth â’r proffil uchaf – adfywio, buddsoddi a thai yn ogystal â gwasanaethau’r ddinas sy'n cynnwys casglu gwastraff, ailgylchu a gwaith ffordd. Mae’r maes cyntaf yn gyfrifol am weddnewidiad parhaus y ddinas a'i lles economaidd, mae'r ail yn ymwneud â'r gwasanaethau a ddefnyddir gan bob preswylydd.
Dechreuodd ei gyrfa yng Nghyngor Sir Merthyr Tudful a chafodd ei swydd gyntaf fel pennaeth gwasanaeth yn 28 oed yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Beverly Owen: "Rwyf wedi mwynhau fy amser hyd yn hyn yng Nghasnewydd ac rwy'n edrych ymlaen at y bennod nesaf hon. Mae yna heriau ond hefyd gynifer o gyfleoedd ac rwyf am fod ar flaen y gad o ran y newidiadau sy'n cael eu gwneud. Mae'n anrhydedd imi ysgwyddo swydd y Prif Weithredwr ac rwy am wneud fy ngorau dros bobl Casnewydd a'r Cyngor."
Cadarnhawyd y penodiad ffurfiol gan y Cyngor llawn Ddydd Mawrth 28 Gorffennaf yn dilyn proses recriwtio gadarn, agored a thryloyw.
Fel dinas, mae Casnewydd yng nghanol cyfnod cyffrous o drawsnewidiad. Roedd yn bwysig denu rhywun i swydd y Prif Weithredwr a all nid yn unig barhau â'r gwaith cyffrous hwn, ond a fydd yn ei yrru yn ei flaen gydag angerdd a phrofiad.
Hysbysebwyd y swydd yn eang a llwyddwyd i gyrraedd ystod eang o ymgeiswyr posibl, gyda nifer a safon ardderchog o geisiadau yn cael eu derbyn.
Er iddo gael ei ohirio oherwydd Covid-19, dilynwyd y broses recriwtio yn llawn ac yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor. Cynhaliwyd y broses ddethol gan banel trawsbleidiol o aelodau etholedig, gyda chymorth arbenigwyr allanol wrth asesu ymgeiswyr. Cyfrannodd ymgysylltiad â'n gweithlu a'n partneriaid allweddol o amrywiaeth eang o sectorau hefyd at y broses ddethol, ac roeddem yn falch iawn o wahodd Cyngor Ieuenctid Casnewydd i gymryd rhan yn y penodiad.