Cyfleusterau gemau aml-ddefnydd a chyrtiau tenis i ailagor
Wedi ei bostio ar Monday 6th July 2020
O ddydd Llun 6 Gorffennaf bydd cyfleusterau gemau amlddefnydd a chyrtiau tenis y mae’r cyngor yn eu rhedeg yn ailagor i'r cyhoedd. Rydym yn gofyn i ddefnyddwyr ddefnyddio eu hoffer chwaraeon eu hunain wrth ddefnyddio'r cyfleusterau ac i lynu wrth ganllawiau ymbellhau cymdeithasol bob amser.
Er diogelwch y cyhoedd a'n staff, bydd ardaloedd chwarae'n aros ar gau. Peidiwch â mynd heibio neu drwyddo na defnyddio unrhyw ffensys, gatiau sydd ar gau, ardaloedd sydd wedi'u cau gan rwystrau a pharciau sydd ar gau. Gwerthfawrogwn ein cefnogaeth barhaus.
Mae'r cyngor yn adolygu effaith Covid-19 ar y ddinas, gwasanaethau a chyfleusterau'r cyngor yn gyson. Wrth i'r darlun newid, bydd cyfyngiadau'n cael eu codi ymhellach, ond dim ond pan fydd hynny'n briodol ac yn ddiogel.