Newyddion

Athrawon yn streicio yng Nghasnewydd – Chwefror 2020

Wedi ei bostio ar Monday 27th January 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn siomedig bod yr undeb athrawon Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) wedi pleidleisio i streicio yn rhai o’r ysgolion lleol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd streicio yn golygu cau’r ysgol yn rhannol neu’n gyfan gwbl gan arwain at ddisgyblion yn colli amser dysgu ac addysgu pwysig sy’n hanfodol i’w haddysg.

Mae hyn hefyd yn anodd i rieni a gofalwyr fydd o bosibl angen meddwl am amser i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am eu plant.

Rydym yn benodol bryderus am ddisgyblion sy’n astudio ar gyfer eu harholiadau TGAU a Lefel A. Mae hyn yn amser hanfodol i ddysgwyr blwyddyn 11 ac 13 yn benodol.

Mae bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wedi gweld effaith llymder. Mae NASUWT wedi rhoi gwybod i ni mai’r rheswm dros streicio yw ailstrwythuro staff, dileu swyddi a cholli swyddi o bosibl, er y bydd y Cyngor yn geisio lleddfu hyn drwy geisio dod o hyd i gyfleoedd adleoli.

Mae’r undeb wedi rhoi gwybod i’r Cyngor y bydd yn cymryd camau diwydiannol yn Ysgol Gyfun Caerllion ar ddydd Iau, 6 Chwefror, dydd Mawrth 11 Chwefror a dydd Mercher 12 Chwefror gan gynnwys 47 o staff addysgu sy’n aelodau NASUWT. Does dim achosion diswyddi hanfodol yn Ysgol Gyfun Caerllion.

Bydd Ysgol Uwchradd Llanwern hefyd yn rhan o hyn gyda disgwyl i 48 o staff addysgu yno streicio ddydd Mawrth, 11 Chwefror, dydd Mercher 12 Chwefror a dydd Iau, 13 Chwefror.

Mae’r cyngor wedi dysgu bod athrawon sy’n aelodau NASUWT yn Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gyfun Caerllion sy’n penderfynu streicio am gael eu talu nôl gan yr Undeb Llafur am golli cyflog.

Os yw streic yn gorfodi ysgol i gau, bydd y pennaeth a’r corff llywodraethu yn rhoi gwybod i rieni a gofalwyr drwy wefan yr ysgol a negeseuon gartref.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.