Newyddion

Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost

Wedi ei bostio ar Tuesday 21st January 2020

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i Wasanaeth Diwrnod Coffa blynyddol yr Holocost am 11am, ddydd Llun 27 Ionawr yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd.

Mae eleni yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau a chwarter canrif ers yr hil-laddiad yn Bosnia.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal y gwasanaeth blynyddol sydd, ar gyfer 2020, â'r thema "sefyll gyda'n gilydd".

Mae'r thema yma yn edrych ar sut mae cyfundrefnau hil-laddiad drwy gydol hanes wedi darnio cymdeithasau'n fwriadol drwy ynysu grwpiau penodol a sut y gellir herio'r tactegau hyn drwy sefyll gyda'n gilydd a chodi llais yn erbyn gormes.

Ymhlith y rhai a fydd yn bresennol eleni bydd Arglwydd Raglaw Gwent, yr Uchel Siryf, Dirprwy Faer Casnewydd, y Cynghorydd Charles Ferris, ac arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd.

 

Bydd Côr Ysgol Gyfun Caerllion yn perfformio nifer o ganeuon a bydd y disgyblion yn cyflwyno darlleniadau a gweddïau. Bydd plant o Ysgol Gynradd Langstone yn cymryd rhan yn yr orymdaith gannwyll tra bod Ensemble Pres Cerddoriaeth Gwent yn chwarae.

Mae'r digwyddiad coffáu cenedlaethol wedi digwydd yn y DU ers 2001 gyda mwy na 2,400 o weithgareddau lleol yn cael eu cynnal un ai ar neu tua'r 27 Ionawr bob blwyddyn.

Mae hwn yn ddiwrnod i dalu teyrnged a chofio'r miliynau o bobl a fu farw yn ystod, neu y newidiwyd eu bywydau gan, yr Holocost, erledigaeth y Natsïaid a hil-laddiadau dilynol wedi hynny yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost hefyd yn gyfle bob blwyddyn i bobl o bob cwr o'r DU sefyll gyda'i gilydd gyda'r rheini yn eu cymuned leol, ar draws ffiniau ffydd, oed ac ethnigrwydd. Mae'n ein hatgoffa bod troseddau casineb, a ysgogir gan elyniaeth tuag at hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rywiol rhywun, yn dal i fod ar gynnydd.

Gall unrhyw un y mae trosedd casineb yn effeithio arno roi gwybod amdano, a chael cymorth, drwy gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu 999, gan adrodd ar-lein yn www.report-it.org.uk neu siarad â Chymorth i Ddioddefwyr www.reporthate.victimsupport.org.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.