Newyddion

Mwy o bobl ifanc mewn addysg, hyfforddiant neu waith yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 19th August 2020

Mae hyd yn oed mwy o bobl ifanc yng Nghasnewydd wedi eu cofnodi fel rhai sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn sgil ymdrech benderfynol a chydgysylltiedig gan y cyngor a'i bartneriaid.

Wyth mlynedd yn ôl, roedd ychydig o dan bump y cant o bobl ifanc 16 oed y ddinas yn rhai nad oedden nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Fodd bynnag, erbyn 2016 roedd y niferoedd wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, sef 1.7 y cant, ac ers hynny mae'r ffigurau wedi gwella'n gyson. Yn sgil data'r llynedd aeth y cyngor i'r chweched safle yng Nghymru o ran perfformiad yn y maes hwn ac mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2019 yn dangos ei fod wedi gwneud hyd yn oed yn well.

Roedd llai nag un y cant (0.9 y cant) o grŵp oedran blwyddyn 11 yn rhaid nad oedden nhw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, gan godi'r Cyngor i'r ail safle yn nhabl Cymru gyfan ac yn uwch o dipyn na chyfartaledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac aelod cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dros ddysgu, sgiliau a thalent: "Rwyf wrth fy modd gyda'r ffigurau hyn gan eu bod yn cynrychioli gwell cyfleoedd bywyd i'r holl bobl ifanc hynny a fyddai fel arall, o bosibl, wedi llithro drwy'r rhwyd.

"Rwy'n falch iawn o'n staff a'n hasiantaethau partner sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cyfle i wireddu eu llawn botensial ac y bydd hynny nid yn unig o fudd iddyn nhw ond i'r ddinas hefyd."

Dywedodd y Cynghorydd Gail Giles, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Sgiliau: "Mae canlyniad rhagorol eleni'n adlewyrchu ein penderfyniad a'n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod pob un o'n pobl ifanc yn yr ysgol, mewn hyfforddiant, gwaith neu goleg ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cynyddu nifer y rhai sydd yn cyfranogi mor sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

"Diolch i ymroddiad ac ymrwymiad y staff sy'n gweithio yn y maes hwn, mae mwy o bobl ifanc wedi gallu elwa o'r cyfleoedd sydd ar gael i'w helpu i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd y pandemig, a'r anawsterau parhaus y bydd hyn yn eu cyflwyno, yn gwneud y flwyddyn sydd i ddod yn fwy heriol ond byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu llwyddiant yn y dyfodol."

Ffigurau 2019 ar gyfer pobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

Casnewydd

Blwyddyn 11 - 0.9 y cant                                                                        

Blwyddyn 12 - 0.8 y cant                                                                                   

Blwyddyn 13 - 1.8 y cant    

Cymru

Blwyddyn 11 - 1.8 y cant

Blwyddyn 12 - 0.8 y cant

Blwyddyn 13 - 2.5 y cant

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.